Tudalen:Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill.pdf/6

Gwirwyd y dudalen hon

o weithydd, bron o bob math, yn cael eu dwyn yn mlaen, Bu Mr. Pugh mor ostyngedig a chyd—gerdded a fi i ben y daith, sef i Rhiwfabon; ond yn uniongyrchol wedi i ni ddisgyn, gwelwn fŵg a thân yn dyrchafu i'r wybren, fel pe buasau yr holl ardal yn myned yn golcerth ufelaidd ar unwaith yna gofynais i Mr. Pugh, pa le oedd y fan hono, atebodd fi yn ddi—oedi mae Acerfair oedd y lle, yna edrychais yn fanol o'm cwmpas, a gwelwa luaws o ffwrneisiau, a'u ffumerau yn cyrhaedd bron i'r cymylau, a dechreuais brydyddu yn y fan, fel hyn:—

Acer Fair, can' pair sy'n poeri—gwreichion,
Yn groch i'r wybreni;
Mae tân a mŵg i'm golwg i,
Hynod, yn mhob cwr o honi.

A'i tân noeth Etna, weithion—a welaf
Yn ulw echryslon?
Ni charai un iach wron,
Fyw yn hir, yn y fan hon.

Yna aethom yn mlaen ar ol y meirch a'r bedrolfen, a gwelwn le arall gerllaw y ffordd yn llawn o fŵg a thân a gwreichion erchyll; dywedodd Mr. Pugh wrthyf mai Rhosllanerchrugog oedd y lle hwnw, yna dechreuodd yr awen gydio yn ei gwaith drachefn, fel hyn:—

Lle enbyd, myglyd, maglog,—erasawl,
Yw Rhosllanerchrhigog;
Lle atcas, gwrthgas, i'r gôg,
A'r êos a'i chân rywiog.

Ond etto mae'n rhaid attal—y genau,
Rhag goganu'r ardal;
Nid yw'n lle certh, serth, a sâl,
I'r difost weithiwr dyfal.

Lluoedd sydd yma'n llywio,—yn ffyrnig
Caiff pob ffwrnais danio;
Ereill o'u bodd sy'n cloddio,
'Nmhell o'u gwlad, yn mhyllau gio.