Cedyrn ddynion sy'n codi,—'n ofalus
Filoedd o dunelli,
Mewn chwys, mae'n hysbys i ni,
O'r Glo iawn i goleuni.
Wel, erbyn hyn yr oedd yn rhaid i ni frysio myned yn
ein blaenau, ond methasem ddyfod o hyd i'r wêdd fawr nes
y daethom i Rhiwfabon Station, ac erbyn i ni gyrhaedd yno,
dyma un o brif ryfeddodau y byd yn dechreu dyfod i'r
golwg, sef un o'r cerbydau tanllyd a rhuadwy, na welswn
yr un o honynt o'r blaen. Golwg ddychrynadwy iawn a
gefais arno y tro cyntaf, beth bynnag, yn pwffian yn waeth
na'r ysbryd drwg a welodd yr hên Ddafydd Ddu Hiraddug,
ugeiniau o flynyddoedd yn ol. Ofnais fyned yn mlaen efo
y Train cyntaf, beth bynnag, ond penderfynais fyned gyda
yr ail, a phan ddaeth yr awr benodol iddo ddyfod, aethum
i'r Booking Office, a gofynais pa faint oedd y fare am fyned
gyda y Train hwnw i Lynlleifiad; telais iddynt eu gofyniad,
a chefais docyn ganddynt; gyda hyny dyma'r trwst mawr,
a'r pwffian ofnadwy gan y Train yn dyfod i mewn i'r Station, a safodd yn llonydd yn y fan. Yna dechreuais innau
hel fy nghodau yn nghyd, ac aethum i un o'r cabanod mor
fuan ag y medren, ond y mynud yr eisteddais i lawr, dyma
y wich fawr allan, a'r pair terwedig yn pwffian yn ddychrynadwy, a dechreuoddy Train gynhyrfu yn aruthrol, a
ffwrdd ag ef gyda chyflymdra annirnadwy, feddyliwn i.
Ar y ffordd, yn rhyw le, gwelwn Gottage prydferth ar y llaw
chwith, a gwaeddais allan yn groch yn iaith y Saeson fel
hyn, "Stop for a moment, I want to draw a sketch of that Cottage;" "Phw! Phw! Pho! Stop, indeed; no, I will not stop if the Emperor of Russia gave me command to stop." Wel, wel, ebai finnau, "Go on, go on; never mind, never mind, perhaps I shall see the Cottage again, sometime or other," a chyfansoddais yr englynion canlynol allan
o law, llyma hwynt:—
Chwyrn Gerbyd, tanllyd, wyt ti—ymwylltiawg,
Fel mellten cyflymi;
Ewyllysgar y llusgi,
A diboen iawn, dybiwn i,