Tudalen:Telyn Dyfi.djvu/65

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyffelybiaeth hoff iawn gan y Parchedig Rhys Prichard ydoedd hon; ac y mae yn ei defnyddio fwy nag unwaith yng Nghanwyll y Cymry.

Crist yw'r pelican cariadus,
Sydd â gwaed ei galon glwyfus
Yn iachau ei adar bychain,
Gwedi'r sarff eu lladd yn gelain.

Crist yw'r pelican trugarog,
Sydd â gwaed ei galon serchog
Yn iachau ei frodyr priod,
Gwedi'r diawl eu lladd â phechod.
— Cân viii 33, 34
Fel pelican cariadus
Tuag at ei adar clwyfus,
Fe rodd waed ei galon bur
I helpu ei frodyr 'nafus.
—cxlix. 25.

Gwaed y pelican sy'n helpu
Ei adar gwedi'r sarff eu brathu:
Gwaed yr Oen all gadw'r Cristion
Gwedi i bechod frathu ei galon.
—cl. 87.


Credid y chwedl hon, er mor amddifad o wirionedd ydyw, yn gyffredin yn nyddiau yr hybarch Ficer. Geilw y prydydd Italig Dante (a fu farw yn 1321) ein Iachawdwr, nostro Pelicano, ein Pelican ni.

XVII. A XVIII. Trowyd y ddwy ganiad hyn flynyddoedd yn ol o'r Seisoneg, ar gais offeiriad o esgobaeth Llandaf, yn awr un o urddasogion yr Eglwys yn esgobaeth Tŷ Ddewi.