CAROL 14.
Mesur—DORCHESTER MARCH.
GAN ini fod trwy ras yn fyw
I weled heddyw ŵyl Nadolig,
Dod gymhorth ini, Nefol Ri,
I'w chadw hi'n barchedig:
Rho in' oleuni, nerth, a dawn,
Er mwyn yr uniawn, raslawn Iesu,
Yr hwn a ddaeth o'i breswyl deg,
Ar redeg i'n gwaredu.
Efe a ddaeth yn ol yr arfaeth,
I barthau isa'r greadigaeth,
Fel y dygai boenedigaeth:
Fe ddaeth yn berffaith odiaeth Un,
I wisgo am dano natur dyn.
Rhyfeddai côr y nefoedd eirian
Wel'd gwisg o gnawd am Dduw ei hunan;
A hynod ymgynhyrfodd anian
Pan ddaeth yn Faban egwan noeth,
Ac eto'n Dduw anfeidrol ddoeth.
Er ised caed yr Iesu cu
Llawenu o'i eni wnae holl anian:
Cyd—ganodd teulu'r nef yn nghyd,
Pan ddaeth i'r byd yn Faban.
Angylion gwynion gwlad y gwawl
Oedd weision siriawl y Messia,
Gan deithio'n gyflym ato ef,
O'r nef i dir Judea.
Pa faint mwy dyled sy i ni dalu,
Lu daear isod, fawl i'r Iesu
Am iddo'n rhadol, ein gwaredu
(safn orddu'r fagddu fawr;
A'i ras i ni a roe's yn awr.
Ein Iesu tirion, o'i dosturi,
A ddaeth tan wawd yn debyg ini
Fel y caem ein cyfoethogi
Trwy ei dylodi, ei gyni, a'i gur;
A gwin ei saint o'i gwpan sur