Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/110

Gwirwyd y dudalen hon

VIII.


Gadewais wlad fy nhad a'm mam,
O hiraeth pur yn wysg fy nghefn;
Edrychais ar ei glannau'n hir,
Rhag ofn na welwn hi drachefn:
Pan aeth o'm golwg, yr oedd un
Yn glaf o galon ar y bwrdd;
B'le mae y gŵr nas câr ei wlad,
Pan fo ei long yn mynd i ffwrdd?

O'm hôl yr oedd fy Ynys Wen,
A'r môr o'i chylch yn gân i gyd;
O 'mlaen yr oedd yr Eidal deg,
Lle mae yr haf yn haf o hyd:
O'm hôl yr oedd cyfandir byw—
Cyfandir bywyd newydd dyn;
O'mlaen yr oedd yr Aifft, mor hen
Nas gŵyr yn iawn ei hoed ei hun!

Ond beth i mi, a'r galon glaf,
Oedd tesni'r Aifft a'r Eidal dlos?
Nid arnynt hwy yr oedd fy mryd,
Yng ngolau dydd, na breuddwyd nos:
Fel Gwenffrwd a Goronwy Môn,
Am Gymru yr hiraethwn i;
Tan awyr las a haul y de,
Ni cheisiwn decach bro na hi.

Cyrhaeddais lannau Cymru'n ôl,
O'r tiroedd hud, tros erwau llaith;
Yn ôl heb golli dim o'm serch,
Na cholli sill o'm hen, hen iaith;