Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/133

Gwirwyd y dudalen hon

"PARADWYS Y BARDD."

CYMRU fach i mi —
Bro y llus a'r llynnoedd,
Corlan y mynyddoedd,
Hawdd ei charu hi.

Sôn am diroedd hud —
Tecach na'r rhai hynny
Ydyw erwau Cymru,
Gwell na broydd byd.

Yn ei hanes hen
Enwir mil o arwyr,
Llin marchogion Arthur
Cedyrn cad a llên.

Mâg rai eraill mwy —
Gwŷr fo'n olud daear,
Na bu'n llys Gwenhwyfar
Hafal iddynt hwy.

Cymru fach i mi —
Cartre crwth a thelyn,
Cysegr salm ac emyn,
Porth y nef yw hi.