Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/45

Gwirwyd y dudalen hon

PE BAI GENNYT SERCH.

Pe bai gennyt serch at dy fardd, fy Menna,
Ti ddaethet fel cynt
Rhwng llwyni y brwyn a gwmon Gorffenna',
A'th wallt y gwynt
Mae celyn y môr yn holi amdanat,
Pan elwyf fy hun;
A pheth a ddywedaf am nad wyt yn dyfod,
Fy mun, fy mun

Mordwywyr, fel cynt, sydd ar lif yr afon—
Yn ddeuoedd fel cynt
A’u dwylo y'mhleth, fel y rhwyfau gwynion
Y’mhleth yn y gwynt
Maecymar gan bawb—gan fordwywyr a gwylain—
A mi heb yr un!
Gwyn fyd na ddychwelit i'm cwch ac i'm calon,
Fy mun, fy mun.