Hoffais di yn ieuanc, Men, Cyn i'th flagur dorri'n flodau Hoffais di drwy bopeth, Men, Drwy dy wên a thrwy dy ddagrau. Doed a ddel ohonot, Men, Ni eill neb dy garu eto Fel y gwnaeth dy Alun, Men, Fel y gwna dy Alun heno.