Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/58

Gwirwyd y dudalen hon

Ni chaea mwy —dywedaf pam,
O lygad fy anwylyd
Y daeth y fellten, wedi cam,
O gwmwl ei hwynepryd.
Mae'r graith yn aros, am fy mai,
Ond dim aderyn llawen,
A minnau sydd, o Fai i Fai,
Yn marw gyda'r dderwen.