Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/61

Gwirwyd y dudalen hon

CYNNIG CALON.

CYMER hi'n drysor,
A chadw hi;
Ceisiaf wneud hebddi,
Os boddiaf di.

Cymer hi'n galon
Gyfan, fy mun;
Ni fynnwn hanner
Calon fy hun.

Cymer hi'n degan
Ond, gwybydd hyn:
Gall chwarae ei thorri,
Ond aur nis pryn.

Cymer hi'n unig,
Na chais ddim mwy;
Ni chydfydd calon
Yn un o ddwy.

Anfon dy hen un
Ar ffair, da thi;
Gwna'r galon honno
Y tro i mi.