Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/63

Gwirwyd y dudalen hon

MERCH Y FELIN.

GERLLAW y bompren, ddoe,
Mi sefais i enweirio;
Ac fel tywyniad haul
Daeth merch y felin heibio.

Arafodd i fy ngweld,
Gan bwyso ar y canllaw,
A swp o flodau maes
A rhedyn rhwng ei dwylaw.

Ni welais ddim erioed
Mor las a than ei haeliau;
Ni welais ddim erioed
Mor felyn a'i Llywethau.

Meddyliais am y môr,
Ond nid oedd ton cyn lased —
A'r tywod ar y traeth,
Ond nid oedd cyn felyned.

Wrth syllu ar ei llun,
Yn nŵr y llyn o tani,
Mi deimlwn fel pe bai
Fy nghalon bron a boddi.

Ni wyddwn, gan fy serch,
le'r oeddwn i yn sefyll;
Ac ni ofalwn ddim
Am eog nac am frithyll.