Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/69

Gwirwyd y dudalen hon

CHWEFROR.

CHWYTH, aeafwynt, fel y mynnot, —
Cryn fy ffenestr a fy nôr;
Plyg y deri fel mieri —
Dyro ddawns i longau'r môr;
Byr yw dydd a dyddiau Chwefror,
Cynt y dêl yr hwyr na'r wawr;
Chwyth y crynddail hyd y cwmwl,
Chwyth y ceinciau hyd y llawr.

Yn dy rwysg ac yn dy ryddid
Tros y Cnicht a'r Moelwyn chwyth;
Cadw'r moethus yn ei gaban,
Cadw'r neidr ar ei nyth;
Câr y wennol awel feddal,
Câr y gloyn glaear si,
Caraf finnau'th ruad dithau —
Edn y ddrycin ydwyf fi.

Chwyth, aeafwynt, fel y mynnot, —
Cladd y mynydd dan y lluwch,
Cladd y môr o dan yr ewin,
Chwyth, aeafwynt, eto'n uwch;
Ond pe clywit ar ryw dalar
Oenig cynnar yn rhoi bref,
Tro oddi wrth y dalar honno,
Paid chwythu arno ef.