Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/80

Gwirwyd y dudalen hon

AWST.

WYNNED oedd maenol Mai,
Gyda'i chynhaeaf blodau;
Gwynnach yw ydfaes Awst,
Gyda'i fil —mil tywysennau.

Chwilied y llaw a fu'n hau
Bellach am fenn a chryman —
Esmwyth yw tonnau'r twf
Cyn llifo i fewn i'r ydlan.

Onid ysgrepan fach
Gadwai y grawn yn Chwefror?
Casgler corsennau Awst,
Ac onid rhy fach yr ysgubor?

Ceinciau o dan eu ffrwyth,
Ffrwythau o dan y braenar — —
Pwy a ddyfalai fod
Bechadur ar wyneb daear?

Erchwch i wŷr a phlant
Eistedd ar lawr y lasfro;
Bu Duw yn cyflawni'r wyrth
O borthi y miloedd eto.