Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/91

Gwirwyd y dudalen hon

Ai wyt ti yn bod, un bychan,
Fel myfi?
Ynte cysgod ar fy meddwl
Ydwyt ti?

A oes deimlad gan flodeuyn,
Fel gan fardd?
Lonnir ef gan haul a chawod
Nes y chwardd?

Pe bai rhywun yn dy fathru —
Mynn neu oen;
Dwed, a feddi galon fechan
Deimlai boen?

Gyrraedd ymson bardd hyd atat,
Wyn wrandawr?
Wyddost ti ryw beth am enaid
Yna i lawr?

A! nid ydwyf er dy holi
Ddoethach ddim;
Gweni arnaf, ond ni roddi
Ateb im.

Cadw i siglo ar dy gorsen,
Lygad Dydd;
Mae yn Fai—tydi yn llawen,
Minnau'n brudd.