Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/95

Gwirwyd y dudalen hon

MABINOGI.

AR blygain ym mis Ebrill
Neu Fai, —ni wn pa un —
A mi drwy'r dellt yn syllu,
Rhwng trwmgwsg a dihun,
Mi welwn Rywun cynnar, —
Yn rhodio yn yr ardd, —
Mor deg a duwies ieuanc,
Neu riain serch y bardd.

Pwy oedd i fod mor gynnar
A hynny, tan y coed,
Ni wyddwn, —pwy'n fwy gwisgi
Nag Olwen ar ei throed;
Amdani yr oedd mantell
O bali gwyrdd hyd lawr;
Ei gwallt fel cwmwl gwlithog,
A'i llygad fel y wawr.

Edrychais arni'n rhodio
Y llwybr ôl a blaen,
Gan fwrw'i thrysor disglair,
O'i chaead law ar daen:
O dan y prennau safai,
Gan gyffwrdd yn ei brys
A'r gwiail, heb eu siglo, —
Mor ysgafn oedd ei bys.