Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/96

Gwirwyd y dudalen hon

'Mi fynnaf wybod," meddwn,
" Pwy yw y Rhywun hardd ";
Agorais ddrws fy mwthyn —
Agorais ddrws yr ardd:
Bu yn edifar gennyf
Fy myned gam o'r ty;
Ni welais ddim ond bronfraith,
Cyn canu'n trwsio'i blu.

Ond euthum hyd y rhodfa,
Lle cerddai ôl a blaen,
Gan fwrw'i thrysor disglair
O'i chaead law ar daen;
Ac yno gwelwn flagur
O felyn, gwyn, a rhudd;
Dau wely rhos a briall,
A dau o lygaid dydd.

A sefais lle y safai,
Gan gyffwrdd yn ei brys
A'r gwiail, heb eu siglo
O dan ei hysgafn fys;
Ac ar y prennau 'r ydoedd,
Lle cyffyrddasai'r Rhith,
Ryw ddwylo bychain gwyrddion
Yn dal y gawod wlith.