ymaflodd yn ei llaw hi; a'r llangces a gyfododd.
26 A'r gair o hyn a aeth dros yr holl wlad honno.
27 A phan oedd yr Iesu yn myned oddi yno, dau ddeillion a'i canlynasant ef, gan lefain a dywedyd, Mab Dafydd, trugarhâ wrthym.
28 Ac wedi iddo ddyfod i'r tŷ, y deillion a ddaethant atto: a'r Iesu a ddywedodd wrthynt, a ydych chwi yn credu y gallaf fi wneuthur hyn? Hwy a ddywedasant wrtho, Ydym, Arglwydd.
29 Yna y cyffyrddodd efe â'u llygaid hwy, gan ddywedyd, Yn ol eich ffydd bydded i chwi.
30 A'u llygaid a agorwyd: a'r Iesu a orchmynnodd iddynt trwy fygwth, gan ddywedyd, Gwelwch nas gwypo neb.
31 Ond wedi iddynt ymado, hwy a'i clodforasant ef trwy'r holl wlad honno.
32 Ac a hwy yn myned allan, wele, rhai a ddygasant atto ddyn mud, cythreulig.
33 Ac wedi bwrw y cythraul allan, llefarodd y mudan: a'r torfeydd a ryfeddasant, gan ddywedyd, Ni welwyd y cyffelyb erioed yn Israel.
34 Ond y Phariseaid a ddywedasant, Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae ef yn bwrw allan gythreuliaid.
35 A'r Iesu a aeth o amgylch yr holl ddinasoedd a'r trefydd, gan ddysgu yn eu synagogau hwynt, a chan bregethu efengyl y deyrnas, a iachâu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl.
36 A phan welodd efe y torfeydd, efe a dosturiodd wrthynt, am eu bod wedi blino, a'u gwasgaru, fel defaid heb ganddynt fugail.
37 Yna y dywedodd efe wrth ei ddisgyblion, Y cynhaeaf yn ddiau sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml:
38 Am hynny attolygwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i'w gynhauaf.
PENNOD X.
1 Crist yn anfon ei ddeuddeg apostol, gan roddi gallu iddynt i wneuthur rhyfeddodau: 5 yn rhoddi gorchymyn iddynt, ac yn eu dysgu, 16 ac yn eu cysuro yn erbyn erlidiau, 40 ac yn addaw bendith i'r rhai a'u derbynio hwynt.
1 AC wedi galw ei ddeuddeg disgybl atto, efe a roddes iddynt awdurdod yn erbyn ysbrydion aflan, i'w bwrw hwynt allan, ac i iachâu pob clefyd a phob afiechyd.
2 Ac enwau'r deuddeg apostolion yw'r rhai hyn: Y cyntaf, Simon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd; Iago mab Zebedëus, ac Ioan ei frawd;
3 Philip, a Bartholomëus; Thomas, a Matthew y publican; Iago mab Alffëus, a Lebëus, yr hwn a gyfenwid Thadëus;
4 Simon y Canaanead, a Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a'i bradychodd ef.
5 Y deuddeg hyn a anfonodd yr Iesu, ac a orchymynnodd iddynt, gan ddywedyd, Nac ewch i ffordd y Cenhedloedd, ac i ddinas y Samariaid nac ewch i mewn:
6 Eithr ewch yn hytrach at gyfrgolledig ddefaid tŷ Israel.
7 Ac wrth fyned, pregethwch, gan ddywedyd, Fod teyrnas nefoedd yn nesâu.
8 Iachêwch y cleifion, glanhêwch y rhai gwahan-glwyfus, cyfodwch y meirw, bwriwch allan gythreuliaid: derbyniasoch yn rhad, rhoddwch yn rhad.
9 Na feddwch aur, nac arian, nac efydd i'ch pyrsau;