Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/32

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chyfoded ei groes, a chanlyned fi.

25 Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei fywyd, a'i cyll: a phwy bynnag a gollo ei fywyd o'm plegid i, a'i caiff.

26 Canys pa lesâd i ddyn, os ennill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun? neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid?

27 Canys Mab y dyn a ddaw yng ngogoniant ei Dad gyd â'i angelion; ac yna y rhydd efe i bawb yn ol ei weithred.

28 Yn wir y dywedaf wrthych, Y mae rhai o'r sawl sydd yn sefyll yma, a'r ni phrofant angau, hyd oni welont Fab y dyn yn dyfod yn ei frenhiniaeth.

PENNOD XVII.

1 Gwedd-newidiad Crist. 14 Y mae efe yn iachâu y loerig; 22 yn rhag-fynegi ei ddioddefaint; 24 ac yn talu teyrnged.

AC ar ol chwe diwrnod y cymmerodd yr Iesu Petr, ac Iago, ac Ioan ei frawd, ac a'u dug hwy i fynydd uchel o'r neilldu;

2 A gwedd-newidiwyd ef ger eu bron hwy: a'i wyneb a ddisgleiriodd fel yr haul, a'i ddillad oedd cyn wynned a'r goleuni.

3 Ac wele, Moses ac Elias a ymddangosodd iddynt, yn ymddiddan âg ef.

4 A Phetr a attebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O Arglwydd, da yw i ni fod yma: os ewyllysi, gwnawn yma dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Elias.

5 Ac efe etto yn llefaru, wele, cwmmwl goleu a'u cysgododd hwynt: ac wele lef o'r cwmmwl yn dywedyd, Hwn yw fy anwyl Fab, yn yr hwn y'm boddlonwyd : gwrandewch arno ef.

6 A phan glybu y disgyblion hynny, hwy a syrthiasant ar eu hwyneb, ac a ofnasant yn ddirfawr.

7 A daeth yr Iesu, ac a gyffyrddodd â hwynt, ac a ddywedodd, Cyfodwch, ac nac ofnwch.

8 Ac wedi iddynt ddyrchafu eu llygaid, ni welsant neb ond yr Iesu yn unig.

9 Ac fel yr oeddynt yn disgyn o'r mynydd, gorchymynodd yr Iesu iddynt, gan ddywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth i neb, hyd oni adgyfodo Mab y dyn o feirw.

10 A'i ddisgybliona ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham gan hynny y mae yr ysgrifenyddion yn dywedyd, fod yn rhaid dyfod o Elias yn gyntaf?

11 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Elias yn wir a ddaw yn gyntaf, ac a edfryd bob peth.

12 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, ddyfod o Elias eisoes: ac nad adnabuant hwy ef, ond gwneuthur o honynt iddo beth bynnag a fynnasant: felly y bydd hefyd i Fab y dyn ddioddef ganddynt hwy.

13 Yna y deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y dywedasai efe wrthynt.

14 ¶ Ac wedi eu dyfod hwy at y dyrfa, daeth atto ryw ddyn, ac a ostyngodd iddo ar ei liniau,

15 Ac a ddywedodd, Arglwydd, trugarhâ wrth fy mab, oblegid y mae efe yn lloerig, ac yn flin arno: canys y mae efe yn syrthio yn y tân yn fynych, ac yn y dwfr yn fynych.

16 Ac mi a'i dygais ef at dy ddisgyblion di, ac ni allent hwy ei iachâu ef.