38 Wele, yr ydys yn gadael eich tŷ i chwi yn anghyfannedd.
39 Canys meddaf i chwi, Ni'm gwelwch ar ôl hyn, hyd oni ddywedoch, Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd.
PENNOD XXIV
1 Crist yn rhag-ddywedyd dinystr y deml: 3 pa fath a pha faint o gystuddiau a fydd o'r blaen. 29 Arwyddion ei ddyfodiad ef i farn. 36 Ac o ran bod y dydd a'r awr yn anhysbys, 42 y dylem ni wylied fel gweision da, yn disgwyl bob amser am ddyfodiad ein meistr.
1A'R Iesu a aeth allan, ac a ymadawodd o'r deml: a'i ddisgyblion a ddaethant atto, i ddangos iddo adeiladau'r deml.
2 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni welwch chwi hyn oll? Yn wir meddaf i chwi, Ni adewir yma garreg ar garreg, a'r ni ddattodir.
3 ¶ Ac efe yn eistedd ar fynydd yr Olew-wydd, y disgyblion a ddaethant atto o'r neilltu, gan ddywedyd, Mynega i ni, pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd o'th ddyfodiad, ac o ddiwedd y byd?
4 A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Edrychwch rhag i neb eich twyllo chwi.
5 Canys daw llawer yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer.
6 A chwi a gewch glywed am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd: gwelwch na chyffrôer chwi: canys rhaid yw bod hyn oll; eithr nid yw'r diwedd etto.
7 Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: ac fe fydd newyn, a nodau, a daeargrynfäau mewn mannau.
8 A dechreuad gofidiau yw hyn oll.
9 Yna y'ch traddodant chwi i'ch gorthrymu, ac a'ch lladdant: a chwi a gasêir gan yr holl genhedloedd er mwyn fy enw i.
10 Ac yna y rhwystrir llawer, ac y bradychant ei gilydd, ac y casânt ei gilydd.
11 A gau brophwydi lawer a godant, ac a dwyllant lawer.
12 Ac oherwydd yr amlhâ anwiredd, fe a oera cariad llawer.
13 Eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig.
14 A'r efengyl hon am y deyrnas a bregethir trwy'r holl fyd, er tystiolaeth i'r holl genhedloedd: ac yna y daw'r diwedd.
15 Am hynny pan weloch y ffieidd-dra anghyfanneddol, a ddywedwyd trwy Daniel y prophwyd, yn sefyll yn y lle sanctaidd, (y neb a ddarlleno, ystyried;)
16 Yna y rhai a fyddant yn Jwdea, fföant i'r mynyddoedd.
17 Y neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i gymryd dim allan o'i dŷ:
18 A'r hwn a fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ôl i gymryd ei ddillad.
19 A gwae'r rhai beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny.
20 Eithr gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf, nac ar y dydd Sabbath:
21 Canys y pryd hwnnw y bydd gorthrymder mawr, y fath ni bu o ddechrau'r byd hyd yr awr hon, ac ni bydd chwaith.
22 Ac oni bai fyrhâu y dyddiau