ni edir maen ar faen, a'r nis dattodir.
3 Ac fel yr oedd efe yn eistedd ar fynydd yr Olew-wydd, gyferbyn â'r deml, Petr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, a ofynasant iddo o'r neilldu,
4 Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo y pethau hyn oll ar ddibennu?
5 A'r Iesu a attebodd iddynt, ac a ddechreuodd ddywedyd, Edrychwch rhag twyllo o neb chwi
6 Canys llawer un a ddaw yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer.
7 Ond pan glywoch am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd, na chyffrôer chwi: canys rhaid i hynny fod; ond nid yw y diwedd etto.
8 Canys cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: a daear-grynfäau fyddant mewn mannau, a newyn a thrallod fyddant.
9 ¶ Dechreuad gofidiau yw y pethau hyn. Eithr edrychwch chwi arnoch eich hunain: canys traddodant chwi i'r cynghorau, ac i'r synagogau; chwi a faeddir, ac a ddygir ger bron rhaglawiaid a brenhinoedd o'm hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy. 10 Ac y mae yn rhaid yn gyntaf bregethu yr efengyl ym mysg yr holl genhedloedd.
11 Ond pan ddygant chwi, a'ch traddodi, na rag-ofelwch beth a ddywedoch, ac na fyfyriwch eithr pa beth bynnag a rodder i chwi yn yr awr honno, hynny dywedwch : canys nid chwychwi sydd yn dywedyd, ond yr Yspryd Glân.
12 A'r brawd a ddyry frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a gyfyd yn erbyn eu rhieni, ac a'u rhoddant hwy i farwolaeth.
13 A chwi a fyddwch gas gan bawb er mwyn fy enw i: eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig.
14 Ond pan weloch chwi y ffieidd-dra anghyfanneddol, yr hwn a ddywedwyd gan Daniel y prophwyd, wedi ei osod lle nis dylid, (y neb a ddarlleno, dealled;) yna y rhai a fyddant yn Judea, ffoant i'r mynyddoedd:
15 A'r neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgyned i'r tŷ, ac nac aed i mewn i gymmeryd dim o'i dŷ.
16 A'r neb a fyddo yn y maes, na thröed yn ei ol i gymmeryd ei wisg.
17 Ond gwae y rhai beichiog, a'r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny!
18 Önd gweddiwch na byddo eich fföedigaeth yn y gauaf.
19 Canys yn y dyddiau hynny y bydd gorthrymder, y cyfryw ni bu y fath o ddechreu y creadwriaeth a greodd Duw, hyd y pryd hwn, ac ni bydd chwaith.
20 Ac oni bai fod i'r Arglwydd fyrhâu y dyddiau, ni chadwesid un cnawd eithr er mwyn yr etholedigion a etholodd, efe a fyrhaodd y dyddiau.
21 Ac yna os dywed neb wrthych, Wele, llyma y Crist; neu, Wele, accw; na chredwch :
22 Canys gau-Gristiau a gau-brophwydi a gyfodant, ac a ddangosant arwyddion a rhyfeddodau, i hudo ymaith, pe byddai bosibl, ïe, yr etholedigion.
23 Eithr ymogelwch chwi: wele, rhag-ddywedais i chwi bob peth.