64 Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd', a'i dafod ef, ac efe a lefarodd, gan fendithio Duw.
65 A daeth ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy: a thrwy holl fynydd-dir Judea y cyhoeddwyd y geiriau hyn oll.
66 A phawb a'r a'u clywsant, a'u gosodasant yn eu calonnau, gan ddywedydy Beth fydd y bachgennyn hwn? A llaw'r Arglwydd oedd gyd âg ef.
67 A'i dad ef Zacharïas a gyflawnwyd o'r Yspryd Glân, ac a brophwydodd, gafi' ddywedyd;
68 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel: canys efe a ymwelodd, ac a wnaeth ymwared i'w bobl;
69 Ac efe a ddyrchafodd gorn iachawdwriaeth i ni, yn nhŷ Dafydd ei wasanaethwr;
70 Megis y llefarodd trwy enau ei sanctaidd brophwydi, y rhai oedd o ddechreuad y byd:
71 Fel y byddai i ni ymwared rhag ein gelynion, ac o law pawb o'n caseion;
72 I gwblhâu'r drugaredd â'n tadau, ac i gofio ei sanctaidd gyfamod:
73 Y llw a dyngodd efe wrth ein. tad-Abraham, ar roddi i ni,
74 Gwedi ein rhyddhâu o law ein gelynion, ei wasanaethu ef yn ddï ofn,
75 Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef, holl dyddiau ein bywyd.
76 A thithau, fachgennyn, a elwir yn brophwyd i'r Goruchaf: canys ti a âi o flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef;
77 I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i'w bobl, trwy faddeuant o'u pechodau,
78 Oherwydd tiriondeb trugaredd ein Duw, trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o'r uchelder,
79 I lewyrchu i'r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.
80 A'r bachgen a gynyddodd, ac a gryfhâwyd yn yr yspryd, ac a fu yn y diffeithwch hyd y dydd yr ymddangosodd efe i'r Israel.
PENNOD II
1 Augustus yn trethu holl ymerodraeth Rhufain. 6 Genedigaeth Crist. 8 Angel yn ei fynegi ir bugeiliaid: 13 a llawer yn canu moliant i Dduw am dano. 21 Enwaedu Crist. 22 Puredigaeth Mair. 28 Simeon ac Anna yn prophwydo am Grist: 40 ac yntau yn cynnyddu mein doethineb: 46 yn ymresymmu a'r doctoriaid yn y deml, 51 ac yn ufudd i'w rieni.
1 BU hefyd yn y dyddiau hynny, fyned gorchymyn allan oddi wrth Augustus Cesar, i drethu'r holl fyd.
2 (Y trethiad yma a wnaethpwyd gyntaf pan oedd Cyrenius yn rhaglaw ar Syria.)
3 A phawb a aethant i'w trethu, bob' mi. i'w ddinas ei hun.
4 A Joseff hefyd a aeth i fyny o Galilea, o ddinas Nazareth, i Judea, i ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem (am ei fdd o dy a thylwyth Dafydd),
5 I'w drethu gyd â Mair, yr hon a ddyweddiasïd yn wraig iddo, yr hon oedd yn feichiog.
6 A bu, tra oeddynt hwy yno, cyflawnwyd y dyddiau i esgor ohoni.
7 A hi a esgorodd ar ei mab cyntaf-anedig, ac a'i rhwymodd ef mewn cadachau, ac a'i dododd ef yn y preseb, am nad oedd iddynt le yn y llety.
8 Ac yr oedd yn y wlad