35 A hwythau a adroddasant y pethau a wnaethesid ar y ffordd, a pha fodd yr adnabuwyd ef ganddynt wrth dorriad y bara.
36 ¶ Ac a hwy yn dywedyd y peth- au hyn, yr Iesu ei hun a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi.
37 Hwythau, wedi brawychu ac ofni, a dybiasant weled o honynt yspryd.
38 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pahamy'ch trallodir? a paham y mae meddyliau yn codi yn eich calonnau?
39 Edrychwch fynwylaw a'm traed, mai myfi fy hun ydyw: teimlwch fi, a gwelwch: canys nid oes gan yspryd gnawd ac esgyrn, fel y gwelwch fod gennyf fi.
40 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylaw a'i draed.
41 Ac a hwy etto heb gredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, A oes gennych chwi yma ddim bwyd?
42 A hwy a roisant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio, ac o ddil mêl.
43 Yntau a'i cymmerodd, ac a'i bwyttaodd yn eu gwydd hwynt.
44 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dyma y geiriau a ddywedais i wrthych, pan oeddwn etto gyd â chwi, bod yn rhaid cyflawni pob peth a ysgrifenwyd y'nghyfraith Moses, a'r prophwydi, a'r psalmau, am danaf fi.
45 Yna yr agorodd efe eu deall hwynt, fel y deallent yr ysgrythyrau.
46 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Felly yr ysgrifenwyd, ac felly yr oedd raid i Grist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd: 47 A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef ym mhlith yr holl genhedloedd, gan ddechreu yn Jerusalem.
48 Ac yr ydych chwi yn dystion o'r pethau hyn.
49 ¶ Ac wele, yr ydwyf fi yn anfon addewid fy Nhad arnoch: eithr arhoswch chwi yn ninas Jerusalem, hyd oni wisger chwi â nerth o'r uchelder.
50 ¶ Ac efe a'u dug hwynt allan hyd yn Bethania; ac a gododd ei ddwylaw, ac a'u bendithiodd hwynt.
51 Ac fe a ddarfu, tra yr oedd efe yn eu bendithio hwynt, ymadael o hono ef oddi wrthynt, ac efe a ddygwyd i fynu i'r nef.
52 Ac wedi iddynt ei addoli ef, hwy a ddychwelasant i Jerusalem, gyd â llawenydd mawr:
53 Ac yr oeddynt yn wastadol yn y deml, yn moli ac yn bendithio, Duw.Amen.
YR EFENGYL YN OL
SANT IOAN.
PENNOD I.
1 Duwdab, dyndab, a swydd Iesu Grist. 15 Tystiolaeth Ioan. 39 Galwad Andreas, Petr, Phylip, a Nathanäel.
YN dechreuad yr oedd y Gair, a'r Gair oedd gyd â Duw, a Duw oedd y Gair.
2 Hwn oedd yn y dechreuad gyd â Duw.
3 Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth; ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim a'r a wnaethpwyd.
4 Ynddo ef yr oedd bywyd; a'r bywyd oedd oleuni dynion. 5 A'r goleuni sydd yn llewyrchu yn y tywyllwch; a'r tywyllwch nid oedd yn ei amgyffred.
6 ¶ Yr ydoedd gwr wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a'i enw Ioan.
7 Hwn a ddaeth yn dystiolaeth, fel y tystiolaethai am y Goleuni, fel y credai pawb trwyddo ef.
8 Nid efe oedd y Goleuni, eithr efe a anfonasid fel y tystiolaethai am y Goleuni.
9 Hwn ydoedd y gwir Oleuni, yr hwn sydd yn goleuo pob dyn a'r y sydd yn dyfod i'r byd.
10 Yn y byd yr oedd efe, a'r byd a wnaethpwyd trwyddo ef; a'r byd nid adnabu ef.
11 At ei eiddo ei hun y daeth, a'r eiddo ei hun nis derbyniasant ef.
12 Ond cynnifer ag a'i derbynias-