Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/151

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eithr pan elech yn hen, ti a estyni dy ddwylaw, ac arall a'th wregysa, ac a'th arwain lle ni fynnit.

19 A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo trwy ba fath angau y gogoneddai efe Dduw. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddywedodd wrtho, Canlyn fi.

20 ¶ A Phetr a drodd, ac a welodd y disgybl yr oedd yr Iesu yn ei garu, yn canlyn, (yr hwn hefyd a bwysasai ar ei ddwyfron ef ar swpper, ac a ddywedasai, Pwy, Arglwydd, yw yr hwn a'th fradycha di?)

21 Pan welodd Petr hwn, efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, ond beth a wna hwn?

22 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hynny i ti? canlyn di fyfi.

23 Am hynny yr aeth y gair yma allan ym mhlith y brodyr, na fyddai y disgybl hwnnw farw: ac ni ddywedasai yr Iesu wrtho na fyddai efe farw; ond, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hynny i ti?

24 Hwn yw y disgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ac a ysgrifenodd y pethau hyn; ac ni a wyddom fod ei dystiolaeth ef yn wir.

25 Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai ped ysgrifenid hwy bob yn un ac un, nid wyf yn tybied y cynhwysai y byd y llyfrau a ysgrifenid. Amen.

ACTAU,

NEU

WEITHREDOEDD YR APOSTOLION SANCTAIDD.

PENNOD I. 1 Crist, er mwyn parottói ei apostolion i weled ei ddyrchaflad ef, yn eu casglu hwy ynghyd i fyn- ydd yr Olew-wydd; ac yn gorchymyn iddynt ddisgwyl yn Jerusalem am ddanfon yr Yspryd Glan; ac yn addaw cyn nemmawr o ddyddiau ei anfon ef; trwy rinwedd yr hwn y byddynt yn dystion iddo ef hyd eithafoedd y ddaear. 9 Ar ol ei ymddyrchafiad ef, y mae dau angel yn eu rhybuddio hwy i ymadael, ac i roddi eu meddyliau ar ei ail-ddyfodiad ef. 12 Hwythau felly yn dychwelyd; a chan ymrói i weddi, yn dewis Matthias yn apostol yn lle Judas.

Y TRAETHAWD cyntaf a wneuthum, O Theophilus, am yr holl bethau a ddechreuodd yr Iesu eu gwneuthur a'u dysgu,

2 Hyd y dydd y derbyniwyd ef i fynu, wedi iddo trwy yr Yspryd Glân roddi gorchymynion i'r apostolion a etholasai:

3 I'r rhai hefyd yr ymddangosodd efe yn fyw wedi iddo ddioddef, trwy lawer o arwyddion sicr; gan fod yn weledig iddynt dros ddeugain niwrnod, a dywedyd y pethau a berthynent i deyrnas Dduw.

4 Ac wedi ymgynnull gyd â hwynt, efe a orchymynodd iddynt nad ym- adawent o Jerusalem, eithr disgwyl am addewid y Tad, yr hwn, eb efe, a glywsoch gennyf fi.

5 Oblegid Ioan yn ddïau a fedyddiodd â dwfr; ond chwi a fedyddir a'r Yspryd Glân, cyn nemmawr o ddyddiau.

6 Gan hynny wedi eu dyfod hwy ynghyd, hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, ai y pryd hwn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel?

7 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ni pherthyn i chwi wybod yr amseroedd na'r prydiau, y rhai a osododd y Tad yn ei feddiant ei hun.

8 Eithr chwi a dderbyniwch nerth yr Yspryd Glân wedi y delo efe arnoch; ac a fyddwch dystion i mi yn Jerusalem, ac yn holl Judea, a Samaria, ac hyd eithaf y ddaear.

9 Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynt-hwy yn edrych, efe a ddyrchafwyd i fynu; a chwmmwl a'i derbyniodd ef allan o'u golwg hwynt.

10 Ac fel yr oeddynt yn edrych yn ddyfal tu a'r nef, ac efe yn myned i fynu, wele, dau wr a safodd ger llaw iddynt mewn gwisg wèn;

11 Y rhai hefyd a ddywedasant, Chwi wŷr o Galilea, paham y sefwch