21 Eithr nid â y rhywogaeth hyn allan, ond trwy weddi ac ympryd.
22 ¶ Ac fel yr oeddynt hwy yn aros yn Galilea, dywedodd yr Iesu wrthynt, Mab y dyn a draddodir i ddwylaw dynion:
23 A hwy a'i lladdant; a'r trydydd dydd y cyfyd efe. A hwy a aethant yn drist iawn.
24 ¶ Ac wedi dyfod o honynt i Capernaum, y rhai oedd yn derbyn arian y deyrnged a ddaethant at Petr, ac a ddywedasant, Onid yw eich athraw chwi yn talu teyrnged?
25 Yntau a ddywedodd, Ydyw. Ac wedi ei ddyfod ef i'r tŷ, yr Iesu a achubodd ei flaen ef, gan ddywedyd, Beth yr wyt ti yn ei dybied, Simon? gan bwy y cymmer brenhinoedd y ddaear deyrnged neu dreth ? gan eu plant eu hun, ynte gan estroniaid?
26 Petr a ddywedodd wrtho, Gan estroniaid. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gan hynny y mae y plant yn rhyddion.
27 Er hynny, rhag i ni eu rhwystro hwy, dos i'r môr, a bwrw fach, a chymmer y pysgodyn a ddêl i fynu yn gyntaf; ac wedi i ti agoryd ei safn, ti a gei ddarn o arian: cymmer hwnnw, a dyro iddynt drosof fi a thithau.
PENNOD XVIII.
1 Crist yn rhybuddio ei ddisgyblion i fod yn ostyngedig ac yn ddiniwed; 7 i ochelyd rhwystrau, ac na ddirmygent y rhai bychain: 15 yn dysgu pa fodd y mae i ni ymddwyn tu ag at ein brodyr, pan wnelont in herbyn; 21 a pha sawl gwaith y maddeuwn iddynt: 23 yr hyn beth y mae yn ei osod allan trwy ddammeg y brenhin a gymerai gyfrif gan ei weision, 32 ac a gospodd yr hwn ni wnaethai drugaredd a'i gydymmaith.
AR yr awr honno y daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd?
2 A'r Iesu a alwodd atto fachgennyn, ac a'i gosododd yn eu canol hwynt;
3 Ac a ddywedodd, Yn wir y dywedaf i chwi, Oddi eithr eich troi chwi, a'ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd.
4 Pwy bynnag gan hynny a'i gostyngo ei hunan fel y bachgennyn hwn, hwnnw yw y mwyaf yn nheyrnas nefoedd.
5 A phwy bynnag a dderbynio gyfryw fachgennyn yn fy enw i, a'm derbyn i.
6 A phwy bynnag a rwystro un o'r rhai bychain hyn a gredant ynof fi, da fyddai iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a'i foddi yn eigion y môr.
7 ¶ Gwae y byd oblegid rhwystrau! canys anghenraid yw dyfod rhwystrau; er hynny gwae y dyn hwnnw trwy yr hwn y daw y rhwystr!
8 Am hynny os dy law neu dy droed a'th rwystra, torr hwynt ymaith, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, neu yn anafus, nag a chennyt ddwy law, neu ddau droed, dy daflu i'r tân tragywyddol.
9 Ac os dy lygad a'th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti yn un-llygeidiog fyned i mewn i'r bywyd, nag a dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern.
10 Edrychwch na ddirmygoch yr un o'r rhai bychain hyn: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod eu hangelion hwy yn y nefoedd bob amser yn gweled wyneb fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.
11 Canys daeth Mab y dyn i gadw yr hyn a gollasid.
12 Beth dybygwch chwi? O bydd gan ddyn gant o ddefaid, a myned o un o honynt ar ddisberod; oni âd efe yr amyn un cant, a myned i'r mynyddoedd, a cheisio yr hon a aeth ar ddisberod?
13 Ac os bydd iddo ei chael hi, yn wir meddaf i chwi, y mae yn llawenhâu am honno mwy nag am yr amyn un cant y rhai nid aethant ar ddisberod.
14 Felly nid yw ewyllys eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd, gyfrgolli yr un o'r rhai bychain hyn.
15 ¶ Ac os pecha dy frawd i'th erbyn, dos, ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ei hun. Os efe a wrendy arnat, ti a ennillaist dy frawd.
16 Ac os efe ni wrendy, cymmer gyd â thi etto un neu ddau, fel yng ngenau dau neu dri o dystion y byddo pob gair yn safadwy.