TRYDYDD EPISTOL CYFFREDINOL
IOAN YR APOSTOL.
1 Y mae efe yn canmol Gaius am ei dduwioldeb, 5 ac amgroesawu pregethwyr. 9 Y mae yn achwyn rhag angharedigrwydd ac uchder Diotrephes, 11 yr hwn ni ddylid dilyn ei ddrwg esampl. 12 Y mae yn rhoi canmoliaeth mawr i Demetrius.
YR henuriad at yr anwyl Gaius, yr hwn yr wyf yn ei garu mewn gwirionedd.
2 Yr anwylyd, yr ydwyf yn bennaf dim yn dymuno dy fod yn llwyddo ac yn iach, fel y mae dy enaid yn llwyddo.
3 Canys mi a lawenychais yn fawr, pan ddaeth y brodyr, a thystiolaethu am dy wirionedd di, megis ag yr ydwyt yn rhodio mewn gwirionedd.
4 Mwy llawenydd na hyn nid oes gennyf, sef cael clywed bod fy mhlant yn rhodio mewn gwirionedd.
5 Yr anwylyd, yr ydwyt y ngwneuthur yn ffyddlawn yr hyn yr ydwyt yn ei wneuthur tu ag at y brodyr, a thuag at ddïeithriaid;
6 Y rhai a dystiolaethasant am dy gariad di ger bron yr eglwys y rhai os hebryngi fel y gweddai i Dduw, da y gwnei.
7 Canys er mwyn ei enw yr aethant allan, heb gymmeryd dim gan y Cenhedloedd.
8 Ni a ddylem gan hynny dderbyn y cyfryw rai, fel y byddom gyd-gynnorthwywyr i'r gwirionedd.
9 Mi a ysgrifenais at yr eglwys: eithr Diotrephes, yr hwn sydd yn chwennych y blaen yn eu plith hwy, ni dderbyn ddim o honom.
10 O herwydd hyn, os deuaf, mi a ddygaf ar gôf ei weithredoedd y mae efe yn eu gwneuthur, gan wag siarad i'n herbyn â geiriau drygionus : ac heb fod yn foddlawn ar hynny, nid yw efe ei hun yn derbyn y brodyr ; a'r rhai sydd yn ewyllysio, y mae yn eu gwahardd, ac yn eu bwrw allan o'r eglwys.
11 Anwylyd, na ddilyn yr hyn sydd ddrwg, ond yr hyn sydd dda. Yr hwn sydd yn gwneuthur daioni, o Dduw y mae: ond yr hwn sydd yn gwneuthur drygioni, ni welodd Dduw.
12 Y mae i Demetrius air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun: a ninnau hefyd ein hunain ydym yn tystiolaethu; a chwi a wyddoch fod ein tystiolaeth ni yn wir.
13 Yr oedd gennyf lawer o beth au i'w hysgrifenu, ond nid wyf yn chwennych ysgrifenu âg ingc a phin attat ti:
14 Eithr gobeithio yr ydwyf gael dy weled ar fyrder, ac ni a ymddiddanwn wyneb yn wyneb.
15 Tangnefedd i ti,Y mae y cyfeillion i'th annerch. Annerch y cyfeillion wrth eu henwau,
EPISTOL CYFFREDINOL
JUDAS YR APOSTOL.
Y mae yn eu hannog i broffesu ffydd Crist yn ddïanwadal: 4 bod gau-athrawon wedi ymlusgo i mewn i'w hudo hwynt; a bod dialedd creulawn wedi ei ddarparu i'w hathrawiaeth a'u cynheddfau melldigedig hwynt: 20 ond bod y rhai duwiol, trwy gynnorthwy yr Yspryd Glân, a thrwy weddio ar Dduw, yn abl i barhâu, ac i gynnyddu mewn gras, ac i'w cadw eu hunain, ac i achub eraill rhag maglau y twyllwyr hynny.
JUDAS, gwasanaethwr Iesu Grist, a brawd Iago, at y rhai a sancteiddiwyd gan Dduw Dad, ac a gad wyd yn Iesu Grist, ac a alwyd:
2 Trugaredd i chwi, a thangnefedd, a chariad, a lïosoger.
3 Anwylyd, pan roddais bob diwydrwydd ar ysgrifenu attoch am yr iachawdwriaeth gyffredinol, anghenraid oedd i mi ysgrifenu attoch, gan eich annog i ymdrech ymmhlaid y ffydd, yr hon a rodded unwaith i'r saint.
4 Canys y mae rhyw ddynion wedi ymlusgo i mewn, y rhai a rag-or-