Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/35

Gwirwyd y dudalen hon

hwy a ryfeddasant, gan ddywedyd, Mor ddisymmwth y crinodd y ffigysbren!

21 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Os bydd gennych ffydd, ac heb ammeu, ni wnewch yn unig hyn a wneuthum i i'r ffigysbren, eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn, Coder di i fynu, a bwrier di i'r môr; hynny a fydd.

22 A pha beth bynnag a ofynoch mewn gweddi, gan gredu, chwi a'i derbyniwch.

23 ¶ Ac wedi ei ddyfod ef i'r deml, yr arch-offeiriaid a henuriaid y bobl a ddaethant atto, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, gan ddywedyd, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon?

24 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Minnau a ofynaf i chwithau un gair, yr hwn os mynegwch i mi, minnau a fynegaf i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

25 Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? ai o'r nef, ai o ddynion? A hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r nef; efe a ddywed wrthym, Paham gan hynny nas credasoch ef?

26 Ond os dywedwn, O ddynion; y mae arnom ofn y bobl: canys y mae pawb yn cymmeryd Ioan megis prophwyd.

27 A hwy a attebasant i'r Iesu, ac a ddywedasant, Ni wyddom ni. Ac yntau a ddywedodd wrthynt, Nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

28 ¶ Ond beth dybygwch chwi? Yr oedd gan wr ddau fab: ac efe a ddaeth at y cyntaf ac a ddywedodd, Fy mab, dos, gweithia heddyw yn fy ngwinllan.

29 Ac yntau a attebodd ac a ddywedodd, Nid af: ond wedi hynny efe a edifarhaodd, ac a aeth.

30 A phan ddaeth efe at yr ail, efe Ac efe a ddywedodd yr un modd. a attebodd ac a ddywedodd, Myfi a âf, arglwydd; ac nid aeth efe.

31 Pa un o'r ddau a wnaeth ewyllys y tad? Dywedasant wrtho, Y cyntaf. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, yr â y publicanod a'r putteiniaid i mewn i deyrnas Dduw o'ch blaen chwi.

32 Canys daeth Ioan attoch yn ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef; ond y publicanod a'r putteiniaid a'i credasant ef: chwithau, yn gweled, nid edifarhasoch wedi hynny, fel y credech ef.

33 ¶ Clywch ddammeg arall. Yr oedd rhyw ddyn o berchen tŷ, yr hwn a blannodd winllan, ac a osododd gae yn ei chylch hi, ac a gloddiodd ynddi win-wrŷf, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref.

34 A phan nesaodd amser ffrwythau, efe a ddanfonodd ei weision at y llafurwyr, i dderbyn ei ffrwythau hi.

35 A'r llafurwyr a ddaliasant ei weision ef, ac un a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant.

36 Trachefn, efe a anfonodd weision eraill, fwy na'r rhai cyntaf: a hwy a wnaethant iddynt yr un modd.

37 Ac yn ddiweddaf oll, efe a anfonodd attynt ei fab ei hun, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i.

38 A phan welodd y llafurwyr y mab, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hun, Hwn yw yr etifedd deuwch, lladdwn ef, a daliwn ei etifeddiaeth ef.

39 Ac wedi iddynt ei ddal, hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant.

40 Am hynny pan ddêl arglwydd y winllan, pa beth a wna efe i'r llafurwyr hynny?

41 Hwy a ddywedasant wrtho, Efe a ddifetha yn llwyr y dynion drwg hynny, ac a esyd y winllan i lafurwyr eraill, y rhai a dalant iddo y ffrwythau yn eu hamserau.

42 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr ysgrythyrau, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben congl: gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni?

43 Am hynny meddaf i chwi, Y