Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/37

Gwirwyd y dudalen hon

22 A phan glywsant hwy hyn, rhyfeddu a wnaethant, a'i adael ef, a myned i ymaith.

23 ¶ Y dydd hwnnw y daeth ato y Sadwceaid, y rhai sydd yn dywedyd nad oes atgyfodiad, ac a ofynasant iddo,

24 Gan ddywedyd, Athro, dywedodd Moses, Os bydd marw neb heb iddo blant, prioded ei frawd ei wraig ef, a chyfoded had i'w frawd.

25 Ac yr oedd gyda ni saith o frodyr: a'r cyntaf a briododd wraig, ac a fu farw; ac efe heb hiliogaeth iddo, a adawodd ei wraig i'w frawd.

26 Felly hefyd yr ail, a'r trydydd, hyd y seithfed.

27 Ac yn ddiwethaf oll bu farw'r wraig hefyd.

28 Yn yr atgyfodiad, gan hynny, gwraig i bwy o'r saith fydd hi? canys hwynt-hwy oll a'i cawsant hi.

29 A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydych yn cyfeiliorni, gan na wyddoch yr ysgrythurau, na gallu Duw.

30 Oblegid yn yr atgyfodiad nid ydynt nac yn gwreica, nac yn gwra; eithr y maent fel angylion Duw yn y nef.

31 Ac am atgyfodiad y meirw, oni ddarllenasoch yr hyn a ddywedwyd wrthych gan Dduw, gan ddywedyd,

32 Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob? Nid yw Duw Dduw y rhai meirw, ond y rhai byw.

33 A phan glybu'r torfeydd hynny, hwy a synasant wrth ei athrawiaeth ef.

34 ¶ Ac wedi clywed o'r Phariseaid ddarfod i'r Iesu ostegu'r Sadwceaid, hwy a ymgynullasant ynghyd i'r un lle.

35 Ac un ohonynt, yr hwn oedd gyfreithiwr, a ofynnodd iddo, gan ei demtio, a dywedyd,

36 Athro, pa un yw y gorchymyn mawr yn y gyfraith?

37 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Ceri yr Arglwydd dŷ Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl feddwi.

38 Hwn yw'r cyntaf, a'r gorchymyn mawr.

39 A'r ail sydd gyffelyb iddo. Câr dy gymydog fel ti dy hun.

40 Ar y ddau orchymyn hyn y mae'r holl gyfraith a'r profiwydi yn sefyll.

41 ¶ Ac wedi ymgasglu o'r Phariseaid ynghyd, yr Iesu a ofynnodd iddynt,

42 Gan ddywedyd, Beth a dybygwch chwi am Grist? mab i bwy ydyw? Dywedent wrtho, Mab Dafydd.

43 Dywedai yntau wrthynt. Pa fodd gan hynny y mae Dafydd yn yr ysbryd yn ei alw ef yn Arglwydd, gan ddywedyd,

44 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i'th draed di?

45 Os yw Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fab iddo?

46 Ac ni allodd neb ateb gair iddo, ac ni feiddiodd neb o'r dydd hwnnw allan ymofyn ag ef mwyach.

PENNOD XXIII

1 Crist yn rhybuddio y bobl i ddilyn athrawiaeth dda, ac nid esamplau drwg yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid. 5 Rhaid i ddisgyblion Crist ochelyd eu rhyfyg hwy. 13 Mae efe yn cyhoeddi wyth wae yn erbyn eu rhagrith a'u dallineb hwy; 34 ac yn prophwydo dinystr Jerusalem.

1 YNA y llefarodd yr Iesu wrth y torfeydd a'i ddisgyblion,

2 Gan ddywedyd, Yng nghadair Moses yr eistedd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid.

3 Yr hyn oll gan hynny a ddywedant wrthych am eu cadw, cedwch a gwnewch; eithr yn ôl eu gweithredoedd na wnewch: canys dywedant, ac nis gwnânt.

4 Oblegid y maent yn rhwymo beichiau trymion ac anodd eu dwyn, ac yn eu gosod ar ysgwyddau dynion, ond nid ewyllysiant eu syflyd hwy ag un o'u bysedd.

5 Ond y maent yn gwneuthur eu holl weithredoedd er mwyn eu gweled gan ddynion: canys y maent yn gwneuthur yn llydain eu phylacterau, ac yn gwneuthur ymylwaith eu gwisgoedd yn helaeth;

6 A charu y maent y lle uchaf mewn gwleddoedd, a'r prif gadeiriau yn y synagogau,

7 A chyfarch yn y marchnadoedd, a'u galw gan ddynion. Rabbi, Rabbi.

8 Eithr na'ch galwer chwi Rabbi: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist, a chwithau oll brodyr ydych.

9 Ac na elwch neb yn dad i chwi ar y ddaear: canys un Tad sydd i chwi, yr hwn sydd yn y nefoedd.