Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/46

Gwirwyd y dudalen hon

a olchodd ei ddwylaw ger bron y bobl, gan ddywedyd, Dïeuog ydwyf fi oddi wrth waed y cyfiawn hwn: edrychwch chwi.

25 A'r holl bobl a attebodd ac a ddywedodd, Bydded ei waed ef ar nom ni, ac ar ein plant.

26 ¶ Yna y gollyngodd efe Barabbas yn rhydd iddynt: ond yr Iesu a fflangellodd efe, ac a'i rhoddes i'w groeshoelio.

27 Yna milwyr y rhaglaw a gym merasant yr Iesu i'r dadleudy, ac a gynnullasant atto yr holl fyddin.

28 A hwy a'i diosgasant ef, ac a roisant am dano fantell o ysgarlad.

29 A chwedi iddynt blethu corono ddrain, hwy a'i gosodasant ar ei ben ef, a chorsen yn ei law ddehau; ac a blygasant eu gliniau ger ei fron ef, ac a'i gwatwarasant, gan ddywedyd, Henffych well, brenhin yr Iuddewon.

30 A hwy a boerasant arno, ac a gymmerasant ygorsen, ac a'i tarawsant ar ei ben.

31 Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a'i dïosgasant ef o'r fantell, ac a'i gwisgasant â'i ddillad ei hun, ac a'i dygasant ef ymaith i'w groeshoelio.

32 Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy a gawsant ddyn o Cyrene, a'i enw Simon; hwn a gymmellas ant i ddwyn ei groes ef.

33 ¶ A phan ddaethant i le a elwid Golgotha, yr hwn a elwir, Lle y benglog,

34 Hwy a roisant iddo i'w yfed, finegr yn gymmysgedig â bustl: ac wedi iddo ei brofi, ni fynnodd efe yfed.

35 Ac wedi iddynt ei groeshoelio ef, hwy a rannasant ei ddillad, gan fwrw coelbren: er cyflawni y peth a ddywedwyd trwy y prophwyd, Hwy a rannasant fy nillad yn eu plith, ac ar fy ngwisg y bwriasant goelbren.

36 A chan eistedd, hwy a'i gwyliasant ef yno:

37 A gosodasant hefyd uwch ei ben ef ei achos yn ysgrifenedig, HWN YW IESU, BRENHIN YR IUDDEWON.

38 Yna y croeshoeliwyd gyd âg ef ddau leidr; un ar y llaw ddehau, ac un ar yr aswy.

39 ¶ A'r rhai oedd yn myned heibio a'i cablasant ef, gan ysgwyd eu pennau,

40 A dywedyd, Ti yr hwn a ddinystri y deml, ac a'i hadeiledi mewn tridiau, gwared dy hun. Os ti yw Mab Duw, disgyn oddi ar y groes.

41 A'r un modd yr arch-offeiriaid hefyd, gan watwar, gyd â'r ysgrifenyddion a'r henuriaid, a ddywedasant,

42 Efe a waredodd eraill, ei hunan nis gall efe ei waredu. Os Brenhin Israel yw, disgyned yr awrhon oddi ar y groes, ac ni a gredwn iddo.

43 Ymddiriedodd yn Nuw; gwareded efe ef yr awrhon, os efe a'i myn ef: canys efe a ddywedodd, Mab Duw ydwyf.

44 A'r un peth hefyd a edliwiodd y lladron iddo, y rhai a groeshoeliasid gyd âg ef.

45 Ac o'r chweched awr y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr.

46 Ac ynghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eli, Eli, lama sabachthani? hynny yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gadewaist?

47 A rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Y mae hwn yn galw am Elias.

48 Ac yn y fan un o honynt a redodd, ac a gymmerth yspwng, ac a'i llanwodd o finegr, ac a'i rhoddodd ar gorsen, ac a'i diododd ef.

49 ¶ A'r lleill a ddywedasant, Paid, edrychwn a ddaw Elias i'w waredu ef.

50 ¶A'r Iesu, wedi llefain drachefn â llef uchel, a ymadawodd â'r yspryd.

51 Ac wele, llèn y deml a rwygwyd yn ddau oddi fynu hyd i waered: a'r ddaear a grynodd, a'r meini a holltwyd:

52 A'r beddau a agorwyd; a llawer o gyrph y saint a hunasent a gyfodasant,

53 Ac a ddaethant allan o'r bedd au ar ol ei gyfodiad ef, ac a aethant i mewn i'r ddinas sanctaidd, ac a ymddangosasant i lawer.

54 Ond y canwriad, a'r rhai oedd gyd âg ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaear-gryn, a'r pethau a wnaethid, a ofnasant yn fawr, gan