Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/48

Gwirwyd y dudalen hon

a thaenwyd y gair hwn ym mhlith yr Iuddewon hyd y dydd heddyw.

16 ¶ A'r un disgybl ar ddeg a aethant i Galilea, i'r mynydd lle yr ordeiniasai yr Iesu iddynt.

17 A phan welsant ef, hwy a'i haddolasant ef: ond rhai a ammheuasant. 18 A'r Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear

19 Ewch gan hynny a dysgwch yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw y Tad, a'r Mab, a'r Yspryd Glân;

20 Gan ddysgu iddynt gadw pob peth a'r a orchymynais i chwi. Ac wele, yr ydwyf fi gyd â chwi bob amser hyd ddiwedd y byd. Amen.

YR EFENGYL YN OL

SANT MARC


PENNOD I.

2 Swydd Ioan Fedyddiwr. 9 Bedyddio yr Iesu, 12 a'i demtio. 14 Efe yn pregethu; 16 yn galw Petr, Andreas, Iago, ac Ioan: 23 yn iachau dyn ag yspryd aflan ynddo, 29 a mam gwraig Petr, 32 a llawer o gleifion: 41 ac yn glanhâu y gwahanglwyfus.

1 DECHREU efengyl Iesu Grist, Fab Duw

2 Fel yr ysgrifenwyd yn y prophwydi, Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb yr hwn a barottoa dy ffordd o'th flaen.

3 Llef un yn llefain yn y diffaethwch, Parottôwch ffordd yr Arglwydd, gwnewch yn uniawn ei lwybrau ef.

4 Yr oedd Ioan yn bedyddio yn y diffaethwch, ac yn pregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau.

5 Ac aeth allan atto ef holl wlad Judea, a'r Hierosolymitiaid, ac a'u bedyddiwyd oll ganddo yn afon yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.

6 Ac Ioan oedd wedi ei wisgo â blew camel, a gwregys croen ynghylch ei lwynau, ac yn bwytta locustiaid a mêl gwŷllt.

7 Ac efe a bregethodd, gan ddywedyd, Y mae yn dyfod ar fy ol i un cryfach na myfi, carrai esgidiau yr hwn nid wyf fi deilwng i ymostwng ac i'w dattod.

8 Myfi yn wir a'ch bedyddiais chwi a dwfr: eithr efe a'ch bedyddia chwi â'r Yspryd Glân.

9 A bu yn y dyddiau hynny, ddyfod o'r Iesu o Nazareth yn Galilea; ac efe a fedyddiwyd gan Ioan yn yr Iorddonen.

10 Ac yn ebrwydd wrth ddyfod i fynu o'r dwfr, efe a welodd y nefoedd yn agored, a'r Yspryd yn disgyn arno megis colommen.

11 A llef a ddaeth o'r nefoedd, Tydi yw fy anwyl Fab, yn yr hwn y'm boddlonwyd.

12 Ac yn ebrwydd y gyrrodd yr yspryd ef i'r diffaethwch.

13 Ac efe a fu yno yn y diffaethwch ddeugain niwrnod yn ei demtio gan Satan: ac yr oedd efe gyd â'r gwŷllt-filod: a'r angelion a weiniasant iddo.

14 Ac ar ol traddodi Ioan, yr Iesu a ddaeth i Galilea, gan bregethu efengyl teyrnas Dduw;

15 A dywedyd, Yr amser a gyflawnwyd, a theyrnas Dduw a nesaodd: edifarhêwch, a chredwch yr efengyl.

16 Ac fel yr oedd efe yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu Simon, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd yn y môr: (canys pysgodwyr oeddynt.)

17 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ol i, a gwnaf i chwi fod yn bysgodwyr dynion.

18 Ac yn ebrwydd, gan adael eu rhwydau, y canlynasant ef.

19 Ac wedi iddo fyned rhagddo ychydig oddi yno, efe a ganfu Iago fab Zebëdeus, ac Ioan ei frawd ef, a hwy yn y llong yn cyweirio y rhwydau.

20 Ac yn y man efe a'u galwodd hwynt: a hwy a adawsant eu tad Zebëdeus yn y llong gyd â'r cyflogddynion, ac a aethant ar ei ol ef.

21 A hwy a aethant i mewn i Capernaum; ac yn ebrwydd ar y dydd Sabbath, wedi iddo fyned i mewn i'r synagog, efe a athrawiaethodd.