Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/51

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

27 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y Sabbath a wnaethpwyd er mwyn dyn, ac nid dyn er mwyn y Sabbath:

28 Am hynny y mae Mab y dyn yn Arglwydd hefyd ar y Sabbath.

PENNOD III.

Crist yn iachau y llaw wedi gwywo, 10 a llawer o glefydau eraill: 11 yn ceryddu yr ysprydion aflan: 13 yn dewis ei ddeuddeg apostol: 22 yn atteb cabledd y rhai a ddywedent ei fod ef yn bwru allan gythreuliaid trwy Beelzebub; 31 ac yn dangos pwy ydyw ei frawd, a'i chwaer, a'i fam.

1 Ac efe a aeth i mewn drachefn i'r synagog; ac yr oedd yno ddyn a chanddo law wedi gwywo.

2 A hwy a'i gwyliasant ef, a iachâi efe ef ar y dydd Sabbath; fel y cyhuddent ef.

3 Ac efe a ddywedodd wrth y dyn yr oedd ganddo y llaw wedi gwywo, Cyfod i'r canol.

4 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Ai rhydd gwneuthur da ar y dydd Sabbath, ynte gwneuthur drwg? cadw einioes, ai lladd? A hwy a dawsant â sôn.

5 Ac wedi edrych arnynt o amgylch yn ddigllawn, gan dristâu am galedrwydd eu calon hwynt, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn allan dy law. Ac efe a'i hestynodd a'i law ef a wnaed yn iach fel y llall.

6 A'r Phariseaid a aethant allan, ac a ymgynghorasant yn ebrwydd gyd â'r Herodianiaid yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef.

7 A'r Iesu gyd â'i ddisgyblion a giliodd tu a'r môr: a llïaws mawr a'i canlynodd ef, o Galilea, ac o Judea,

8 Ac o Jerusalem, ac o Idumea, ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen; a'r rhai o gylch Tyrus a Sidon, llïaws mawr, pan glywsant gymmaint a wnaethai efe, a ddaethant atto.

9 Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion am fod llong yn barod iddo, oblegid y dyrfa, rhag iddynt ei wasgu ef.

10 Canys efe a iachasai lawer, hyd oni phwysent arno, er mwyn cy- ffwrdd âg ef, cynnifer ag oedd a phläau arnynt.

11 A'r ysprydion aflan, pan wel- sant ef, a syrthiasant i lawr ger ei fron ef, ac a waeddasant, gan ddy- wedyd, Ti yw Mab Duw.

12 Yntau a orchymynodd iddynt yn gaeth, na chyhoeddent ef.

13 Ac efe a esgynodd i'r mynydd, ac a alwodd atto y rhai a fynnodd efe: a hwy a ddaethant atto.

14 Ac efe a ordeiniodd ddeuddeg, fel y byddent gyd ag ef, ac fel y danfonai efe hwynt i bregethu; 15 Ac i fod ganddynt awdurdod i iachân clefydau, ac i fwrw allan gythreuliaid.

16 Ac i Simon y rhoddes efe enw Petr;

17 Ac Iago fab Zebedeus, ac Ioan brawd Iago, (ac efe a roddes iddynt enwau, Boanerges; yr hyn yw, Meibion y daran;)

18 Ac Andreas, a Phylip, a Bartholomeus, a Matthew, a Thomas, ac Iago fab Alpheus, a Thadeus, a Simon y Canaanead,

19 A Judas Iscariot, yr hwn hefyd a'i bradychodd ef. A hwy a ddaethant i dŷ. 20 A'r dyrfa a ymgynhullodd drachefn, fel na allent gymmaint a bwytta bara.

21 A phan glybu yr eiddo ef, hwy a aethant i'w ddal ef: canys dywedasant, Y mae efe allan o'i bwyll.

22 A'r ysgrifenyddion, y rhai a ddaethent i waered o Jerusalem, a ddywedasant fod Beelzebub ganddo, ac mai trwy bennaeth y cythreuliaid yr oedd efe yn bwrw allan gythreuliaid.

23 Ac wedi iddo eu galw hwy atto, efe a ddywedodd wrthynt mewn damhegion, Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan?

24 Ac o bydd teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y deyrnas honno sefyll.

25 Ac o bydd tŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni ddichon y tŷ hwnnw sefyll.

26 Ac os Satan a gyfyd yn ei er- byn ei hun, ac a fydd wedi ymran- nu, ni all efe sefyll, eithr y mae iddo ddiwedd.

27 Ni ddichon neb fyned i mewn i dŷ y cadarn, ac yspeilio ei ddo- drefn ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo y cadarn; ac yna yr yspeilia ei dŷ ef.