Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/52

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

28 Yn wir y dywedaf i chwi, y maddeuir pob pechod i feibion dynion, apha gabledd bynnag a gablant:

29 Eithr yr hwn a gablo yn erbyn yr Yspryd Glân, ni chaiff faddeuant yn dragywydd, ond y mae yn euog o farn dragywydd:

30 Am iddynt ddywedyd, Y mae yspryd aflan ganddo.

31 Daeth gan hynny ei frodyr ef a'i fam; a chan sefyll allan, hwy a anfonasant atto, gan ei alw ef.

32 A'r bobl oedd yn eistedd o'i amgylch, ac a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy fam di a'th frodyr allan yn dy geisio.

33 Ac efe a'u hattebodd hwynt, gan ddywedyd, Pwy yw fy mam i, neu fy mrodyr i?

34 Ac wedi iddo edrych oddi am- gylch ar y rhai oedd yn eistedd yn ei gylch, efe a ddywedodd, Wele fy mam i, a'm brodyr i.

35 Canys pwy bynnag a wnelo ewyllys Duw, hwnnw yw fy mrawd i, a'm chwaer, a'm mam i.

PENNOD IV.

Dammeg yr hauwr, 14 a'i dehongliad. 21 Rhaid i ni gyfrannu goleuni ein gwybodaeth i eraill. 30 a'r gronyn mustard. 35 Crist yn gostegu y dymmestl ar y môr.

1 Ac efe a ddechreuodd dather: efe a ddechreuodd drachefn athrawiaethu yn ymyl y môr a thyrfa fawr a ymgasglodd atto, hyd oni bu iddo fyned i'r llong, ac eistedd ar y môr; a'r holl dyrfa oedd wrth y môr, ar y tir.

2 Ac efe a ddysgodd iddynt lawer ar ddamhegion, ac a ddywedodd wrthynt yn ei ddysgeidiaeth ef, 3 Gwrandêwch: Wele, hauwr a aeth allan i hau:

4 A darfu, wrth hau, i beth syrthio ar fin y ffordd, ac ehediaid yr awyr a ddaethant ac a'i difasant.

5 A pheth a syrthiodd ar greigle, lle ni chafodd fawr ddaear; ac yn y fan yr eginodd, am nad oedd iddo ddyfnder daear.

6 A phan gododd yr haul, y poethwyd ef; ac am nad oedd gwreiddyn iddo, efe a wywodd.

7 A pheth a syrthiodd ym mhlith drain; a'r drain a dyfasant, ac a'i tagasant ef, ac ni ddug ffrwyth.

8 A pheth arall a syrthiodd mewn tir da, ac a roddes ffrwyth tyfadwy a chynnyrchiol, ac a ddug un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant. 9 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo glustiau i wrandaw, gwrandawed.

10 A phan oedd efe wrtho ei hun, y rhai oedd yn ei gylch ef gyd â'r deuddeg a ofynasant iddo am y ddammeg. 11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, I chwi y rhodded gwybod dirgelwch teyrnas Dduw eithr i'r rhai sydd allan, ar ddamhegion y gwneir pob peth:

12 Fel yn gweled y gwelant, ac na chanfyddant; ac yn clywed y clywant, ac ni ddeallant; rhag iddynt ddychwelyd, a maddeu iddynt eu pechodau.

13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni wyddoch chwi y ddammeg hon? a pha fodd y gwybyddwch yr holl ddamhegion?

14 ¶ Yr hauwr sydd yn hau y gair.

15 A'r rhai hyn yw y rhai ar fin y ffordd, lle yr hauir y gair; ac wedi iddynt ei glywed, y mae Satan yn dyfod yn ebrwydd, ac yn dwyn ymaith y gair a hauwyd yn eu calonnau hwynt.

16 A'r rhai hyn yr un ffunud yw y rhai a hauir ar y creigle; y rhai, wedi clywed y gair, sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef yn llawen

17 Ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr dros amser y maent yna, pan ddêl blinder neu erlid o achos y gair, yn y man y rhwystrir hwynt.

18 A'r rhai hyn yw y rhai a hauwyd ym mysg y drain; y rhai a wrandawant y gair,

19 Ac y mae gofalon y byd hwn, a hudoliaeth golud, a chwantau am bethau eraill, yn dyfod i mewn, ac yn tagu y gair, a myned y mae yn ddiffrwyth.

20 A'r rhai hyn yw y rhai a hau- wyd mewn tir da; y rhai sydd yn gwrandaw y gair, ac yn ei dderbyn, ac yn dwyn ffrwyth, un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant.