Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/53

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

21 Ac efe a ddywedodd wrthynt, A ddaw canwyll i'w dodi dan Ïestr, neu dan wely? ac nid i'w gosod ar ganhwyllbren?

22 Canys nid oes dim cuddiedig, a'r nis amlygir; ac ni bu ddim dirgel, ond fel y delai i eglurdeb.

23 Od oes gan neb glustiau i wrandaw, gwrandawed.

24 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch beth a wrandawoch. A pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwithau; a chwanegir i chwi, y rhai a wrandêwch.

25 Canys yr hwn y mae ganddo, y rhoddir iddo: a'r hwn nid oes ganddo, ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno.

26 Ac efe a ddywedodd, Felly y mae teyrnas Dduw, fel pe bwriai ddyn had i'r ddaear;

27 A chysgu, a chodi nos a dydd, a'r had yn egino ac yn tyfu, y modd nis gŵyr efe.

28 Canys y ddaear a ddwg ffrwyth o honi ei hun; yn gyntaf yr eginyn, ar ol hynny y dywysen, yna yr ŷd yn llawn yn y dywysen.

29 A phan ymddangoso y ffrwyth, yn ebrwydd y rhydd efe y crymman ynddo, am ddyfod y cynhauaf.

30 ¶ Ac efe a ddywedodd, I ba beth y cyffelybem deyrnas Dduw? neu ar ba ddammeg y gwnaem gyffelybrwydd o honi?

31 Megis gronyn o had mwstard ydyw, yr hwn pan hauer yn y ddaear, sydd leiaf o'r holl hadau sydd ar y ddaear:

32 Eithr wedi yr hauer, y mae yn tyfu, ac yn myned yn fwy na'r holl lysiau, ac efe a ddwg ganghennau mawrion; fel y gallo ehediaid yr awyr nythu dan ei gysgod ef.

33 Ac â chyfryw ddamhegion lawer y traethodd efe iddynt y gair, hyd y gallent ei wrandaw:

34 Ond heb ddammeg ni lefarodd wrthynt: ac o'r neilldu i'w ddisgyblion efe a eglurodd bob peth.

35 ¶ Ac efe a ddywedodd wrthynt y dwthwn hwnnw, wedi ei hwyrhâu hi, Awn trosodd i'r tu draw.

36 Ac wedi iddynt ollwng ymaith y dyrfa, hwy a'i cymmerasant ef fel yr oedd yn y llong: ac yr oedd hef- yd longau eraill gyd âg ef.

37 Ac fe a gyfododd tymmestl fawr o wynt, a'r tonnau a daflasant i'r llong, hyd onid oedd hi yn llawn weithian.

38 Ac yr oedd efe yn y pen ol i'r llong, yn cysgu ar obennydd: a hwy a'i deffroisant ef, ac a ddywedasant wrtho, Athraw, ai difatter gennyt ein colli ni?

39 Ac efe a gododd i fynu, ac a geryddodd y gwynt, ac a ddywedodd wrth y môr, Gostega, distawa. A'r gwynt a ostegodd, a bu tawelwch mawr.

40 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych mor ofnog? pa fodd nad oes gennych ffydd? 41 Eithr hwy a ofnasant yn ddir- fawr, ac a ddywedasant wrth eu gilydd, Pwy yw hwn, gan fod y gwynt a'r môr yn ufuddhâu iddo?

PENNOD V.

1 Crist yn gwaredu y dyn yr oedd ynddo leng o gythreuliaid: 13 hwythau yn myned i'r moch. 25 Y mae efe yn iacháu y wraig o'r diferlif gwaed, 35 ac yn cyfodi merch Jairus o farw i fyw.

1 A HWY a ddaethant i'r tu hwnt i'r môr, i wlad y Gadareniaid.

2 Ac ar ei ddyfodiad ef allan o'r llong, yn y man cyfarfu âg ef o blith y beddau, ddyn ag yspryd aflan ynddo,

3 Yr hwn oedd a'i drigfan ym mhlith y beddau; ac ni allai neb, ie, â chadwynau, ei rwymo ef:

4 O herwydd ei rwymo ef yn fynych â llyffetheiriau, ac â chadwynau, a darnio o hono y cadwynau, a dryllio y llyffetheiriau: ac ni allai neb ei ddofi ef.

5 Ac yn wastad nos a dydd yr oedd efe yn llefain yn yn y mynyddoedd, ac ym mhlith y beddau, ac yn ei dorri ei hun & cherrig.

6 Ond pan ganfu efe yr Iesu o hirbell, efe a redodd, ac a'i haddolodd ef;

7 A chan waeddi â llef uchel, efe a ddywedodd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, Iesu Mab y Duw goruchaf? yr ydwyf yn dy dynghedu trwy Dduw, na phoenech fi.

8 (Canys dywedasai wrtho, Yspryd aflan, dos allan o'r dyn.)