Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/54

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

9 Ac efe a ofynodd iddo, Beth yw dy enw? Yntau a attebodd, gan ddywedyd, Lleng yw fy enw; am fod llawer o honom.

10 Ac efe a fawr-ymbiliodd âg ef, na yrrai efe hwynt allan o'r wlad.

11 Ond yr oedd yno ar y mynyddoedd genfaint fawr o foch yn pori.

12 A'r holl gythreuliaid a attolygcasant iddo, gan ddywedyd, Danfon mi i'r moch, fel y gallom fyned i mewn iddynt.

13 Ac yn y man y caniattaodd yr Iesu iddynt. A'r ysprydion aflan, wedi myned allan, a aethant i mewn i'r moch a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r môr (ac ynghylch dwy fil oeddynt) ac a'u boddwyd yn y môr.

14 A'r rhai a borthent y moch a ffoisant, ac a fynegasant y peth yn y ddinas, ac yn y wlad: a hwy a aethant allan i weled beth oedd hyn a wnaethid.

15 A hwy a ddaethant at yr Iesu, ac a welsant y cythreulig, yr hwn y buasai y lleng ynddo, yn eistedd, ac yn ei ddillad, ac yn ei iawn bwyll; ac a ofnasant.

16 A'r rhai a welsant a fynegas- ant iddynt, pa fodd y buasai i'r cythreulig, ac am y moch.

17 A dechreuasant ddymuno arno ef fyned ymaith o'u goror hwynt.

18 Ac efe yn myned i'r llong, yr hwn y buasai y cythraul ynddo a ddymunodd arno gael bod gyd âg ef.

19 Ond yr Iesu ni adawodd iddo; eithr dywedodd wrtho, Dos i'th dŷ at yr eiddot, a mynega iddynt pa faint a wnaeth yr Arglwydd erot, ac iddo drugarhâu wrthyt.

20 Ac efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi trwy Decapolis, pa bethau eu maint a wnaethai yr Iesu iddo: a phawb a ryfeddasant.

21 Ac wedi i'r Iesu drachefn fyned mewn llong i'r làn arall, ym- gasglodd tyrfa fawr atto: ac yr oedd efe wrth y môr.

22 Ac wele, un o bennaethiaid y synagog a ddaeth, a'i enw Jairus: a phan ei gwelodd, efe a syrthiodd wrth ei draed ef;

23 Ac efe a fawr-ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Y mae fy merch fechan ar drange: attolwg i ti ddyfod, a dodi dy ddwylaw arni, fel yr iachâer hi; a byw fydd.

24 A'r Iesu a aeth gyd âg ef: a thyrfa fawr a'i canlynodd ef, ac a'i gwasgasant ef.

25 A rhyw wraig, yr hon a fuasai mewn diferlif gwaed ddeuddeng mlynedd,

26 Ac a oddefasai lawer gan laweroedd o feddygon, ac a dreuliasai gymmaint ag oedd ar ei helw, ac ni chawsai ddim llesâd, eithr yn hytrach myned waeth-waeth,

27 Pan glybu hi am yr Iesu, hi a ddaeth yn y dyrfa o'r tu ol, ac a gyffyrddodd a'i wisg ef;

28 Canys hi a ddywedasai, Os cyffyrddaf a'i ddillad ef, iach fyddaf.

29 Ac yn ebrwydd y sychodd ffynhonnell ei gwaed hi: a hi a wybu yn ei chorph ddarfod ei hiachâu o'r pla.

30 Ac yn y fan yr Iesu, gan wybod ynddo ei hun fyned rhinwedd allan o hono, a drodd yn y dyrfa, ac a ddywedodd, Pwy a gyffyrddodd â'm dillad?

31 A'i ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Ti a weli y dyrfa yn dy wasgu, ac a ddywedi di, Pwy a'm cyffyrddodd?

32 Ac yntau a edrychodd o amgylch, i weled yr hon a wnaethai hyn.

33 Ond y wraig, gan ofni a chrynu, yn gwybod beth a wnaethid ynddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd iddo yr holl wirionedd.

34 Ac efe a ddywedodd wrthi, Ha ferch, dy ffydd a'th iachaodd: dos mewn heddwch, a bydd iach o'th bla.

35 Ac efe etto yn llefaru, daeth rhai o dŷ pennaeth y synagog, gan ddywedyd, Bu farw dy ferch: i ba beth etto yr aflonyddi yr Athraw?

36 A'r Iesu, yn ebrwydd wedi clywed y gair a ddywedasid, a ddywedodd wrth bennaeth y synagog, Nac ofna; cred yn unig.

37 Ac ni adawodd efe neb i'w ddilyn, ond Petr, ac Iago, ac Ioan brawd Iago.