Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/55

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

38 Ac efe a ddaeth i dy pennaeth y synagog, ac a ganfu y cynnwrf, a'r rhai oedd yn wylo ac yn ochain llawer.

39 Ac wedi iddo fyned i mewn, efe a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnewch gynnwrf, ac yr wylwch? ni bu farw yr eneth, eithr cysgu y mae.

40 A hwy a'i gwatwarasant ef. Ond efe, gwedi bwrw pawb allan, a gymmerth dad yr eneth a'i mam, a'r rhai oedd gyd âg ef, ac a aeth i mewn lle yr oedd yr eneth yn gorwedd.

41 Ac wedi ymaflyd yn llaw yr eneth, efe a ddywedodd wrthi, Talitha, cwmi; yr hyn o'i gyfieithu yw, Yr eneth, yr wyf yn dywedyd wrthyt, cyfod.

42 Ac yn y fan y cyfododd yr eneth, ac a rodiodd: canys deuddeng mlwydd oed ydoedd hi. A synnu a wnaeth arnynt â syndod mawr.

43 Ac efe a orchymynodd iddynt yn gaeth, na chai neb wybod hyn; ac a ddywedodd am roddi peth iddi i'w fwytta.

PENNOD VI.

1 Diystyru Crist gan ei wladwyr ei hun. 7 Y mae efe yn rhoddi i'r deuddeg awdurdod ar ysprydion aflan. 14 Amryw dyb am Grist. 27 Torri pen Ioan Fedyddiwr; 29 a'i gladdu. 30 Yr apostolion yn dychwelyd o bregethu. 34 Gwyrthiau y pùm torth bara, a'r ddau bysgodyn. 48 Crist yn rhodio ar y môr: 53 ac yn iacháu pawb a gyffyrddai âg ef.

1 Ac efe a aeth ymaith oddi yno, ac a ddaeth i'w wlad ei hun; a'i ddisgyblion a'i canlynasant ef.

2 Ac wedi dyfod y Sabbath, efe a ddechreuodd athrawiaethu yn y syn- agog: a synnu a wnaeth llawer a'i clywsant, gan ddywedyd, O ba le y daeth y pethau hyn i hwn? a pha ddoethineb yw hon a roed iddo, fel y gwneid y cyfryw nerthoedd trwy ei ddwylaw ef?

3 Onid hwn yw y saer, mab Mair, brawd Iago, a Joses, a Judas, a Simon? ac onid yw ei chwiorydd ef yma yn ein plith ni? A hwy a rwystrwyd o'i blegid ef.

4 Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw prophwyd yn ddibris ond yn ei wlad ei hun, ac ym mhlith ei genedl ei hun, ac yn ei dŷ ei hun.

5 Ac ni allai efe yno wneuthur dim gwyrthiau, ond rhoi ei ddwylaw ar ychydig gleifion, a'u hiachâu hwynt.

6 Ac efe a ryfeddodd o herwydd eu hanghrediniaeth: ac a aeth i'r pentrefi oddi amgylch, gan athrawiaethu.

7 Ac efe a alwodd y deuddeg, ac a ddechreuodd eu danfon hwynt bob yn ddau a dau; ac a roddes iddynt awdurdod ar ysprydion aflan;

8 Ac a orchymynodd iddynt, na chymmerent ddim i'r daith, ond llaw-ffon yn unig; nac ysgrepan, na bara, nac arian yn eu pyrsau:

9 Eithr eu bod a sandalau am eu traed; ac na wisgent ddwy bais.

10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, I ba le bynnag yr eloch i mewn i dŷ, arhoswch yno hyd onid eloch ymaith oddi yno.

11 A pha rai bynnag ni'ch derbyniant, ac ni'ch gwrandawant, pan eloch oddi yno, ysgydwch y llwch a fyddo dan eich traed, yn dystiolaeth iddynt. Yn wir meddaf i chwi, Y bydd esmwythach i Sodom a Gomorrah yn nydd y farn, nag i'r ddinas honno.

12 A hwy a aethant allan, ac a bregethasant ar iddynt edifarhâu: 13 Ac a fwriasant allan lawer o gythreuliaid, ac a eliasant âg olew lawer o gleifion, ac a'u hiachasant.

14 A'r brenhin Herod a glybu (canys cyhoedd ydoedd ei enw ef); ac efe a ddywedodd, Ioan Fedyddiwr a gyfododd o feirw, ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef.

15 Eraill a ddywedasant, Mai Elias yw. Ac eraill a ddywedasant, Mai prophwyd yw, neu megis un o'r prophwydi.

16 Ond Herod, pan glybu, a ddywedodd, Mai yr Ioan a dorrais i ei ben yw hwn; efe a gyfododd o feirw.

17 Canys yr Herod hwn a ddanfonasai, ac a ddaliasai Ioan, ac a'i rhwymasai ef yn y carchar, o achos Herodias gwraig Phylip ei frawd; am iddo ei phriodi hi.

18 Canys Ioan a ddywedasai wrth Herod, Nid cyfreithlawn i ti gael gwraig dy frawd.

19 Ond Herodias a ddaliodd ŵg