iddo, ac a chwennychodd ei ladd ef; ac nis gallodd:
20 Canys Herod oedd yn ofni Ioan, gan wybod ei fod ef yn wr cyfiawn, ac yn sanctaidd; ac a'i parchai ef: ae wedi iddo ei glywed ef, efe a wnai lawer o bethau, ac a'i gwrandawai ef yn ewyllysgar.
21, Ac wedi dyfod diwrnod cyfaddas, pan wnaeth Herod ar ei ddydd genedigaeth swpper i'w bennaeth- iaid, a'i flaenoriaid, a goreugwŷr Galilea:
22 Ac wedi i ferch Herodias honno ddyfod i mewn, a dawnsio, a boddhâu Herod, a'r rhai oedd yn eistedd gyd âg ef, y brenhin a ddywedodd wrth y llangces, Gofyn i mi y peth a fynnech, ac mi a'i rhoddaf i ti.
23 Ac efe a dyngodd iddi, Beth bynnag a ofynech i mi, mi a'i rhoddaf i ti, hyd hanner fy nheyrnas.
24 A hithau a aeth allan, ac a ddywedodd wrth ei mam, Pa beth a ofynaf? A hithau a ddywedodd, Pen Ioan Fedyddiwr.
25 Ac yn y fan hi a aeth i mewn ar frys at y brenhin, ac a ofynodd, gan ddywedyd, Mi a fynnwn i ti roi i mi allan o law, ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr.
26 A'r brenhin yn drist iawn, ni chwennychai ei bwrw hi heibio, o herwydd y llwon, a'r rhai oedd yn eistedd gyd âg ef.
27 Ac yn y man y brenhin a ddanfonodd ddihenyddwr, ac a orchymynodd ddwyn ei ben ef.
28 Ac yntau a aeth, ac a dorrodd ei ben ef yn y carchar, ac addug ei ben ef ar ddysgl, ac a'i rhoddes i'r llangces; a'r llangces a'i rhoddes ef i'w mam.
29 A phan glybu ei ddisgyblion ef, hwy a ddaethant ac a gymmerasant ei gorph ef, ac a'i dodasant mewn bedd.
30 ¶ A'r apostolion a ymgasglasant at yr lesu, ac a fynegasant iddo yr holl bethau, y rhai a wnaethent, a'r rhai hefyd a athrawiaethasent.
31 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch eich hunain i le anghyfannedd o'r neilldu, a gorphwyswch encyd. Canys llawer oedd yn dyfod ac yn myned, fel nad oeddynt yn cael ennyd cymmaint ag i fwytta.
32 A hwy a aethant i le anghyfannedd mewn llong o'r neilldu.
33 A'r bobloedd a'u gwelsant hwy yn myned ymaith, a llawer a'i hadnabuant ef, ac a redasant yno ar draed o'r holl ddinasoedd, ac a'u rhag-flaenasant hwynt, ac a ymgasglasant atto ef.
34 A'r Iesu, wedi myned allan, a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt, am eu bod fel defaid heb ganddynt fugail: ac a ddechreuodd ddysgu iddynt lawer o bethau.
35 Ac yna wedi ei myned hi yn llawer o'r dydd, y daeth ei ddisgyblion atto ef, gan ddywedyd, Y lle sydd anial, ac weithian y mae hi yn llawer o'r dydd:
36 Gollwng hwynt ymaith, fel yr elont i'r wlad oddi amgylch, ac i'r pentrefi, ac y prynont iddynt eu hunain fara: canys nid oes ganddynt ddim i'w fwytta.
37 Ond efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwytta. A hwy a ddywedasant wrtho, A awn ni a phrynu gwerth deucan ceiniog o fara, a'i roddi iddynt i'w fwytta?
38 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? ewch, ac edrychwch. Ac wedi iddynt wybod, hwy a ddywedasant, Pump, a dau bysgodyn.
39 Ac efe a orchymynodd iddynt beri i bawb eistedd yn fyrddeidiau ar y glaswellt.
40 A hwy a eisteddasant yn finteioedd a minteioedd, o fesur cannoedd, ac o fesur deg a deugeiniau.
41 Ac wedi cymmeryd y pùm torth a'r ddau bysgodyn, gan edrych i fynu tu a'r nef, efe a fendithiodd, ac a dorrodd y bara, ac a'u rhoddes at ei ddisgyblion, i'w gosod ger eu bronnau hwynt: a'r ddau bysgodyn a rannodd efe rhyngddynt oll.
42 A hwy oll a fwyttasant, ac a gawsant ddigon.
43 A chodasant ddeuddeg basgedaid yn llawn o'r briw-fwyd, ac o'r pysgod.
44 A'r rhai a fwyttasent o'r torthau, oedd ynghylch pùm mil o wŷr.
45 Ac yn y man efe a gymhellodd ei ddisgyblion i fyned i'r llong, a