Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/58

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

traddodiad eich hunain, yr hwn a draddodasoch chwi: a llawer o gyffelyb bethau a hynny yr ydych yn eu gwneuthur.

14 A chwedi galw atto yr holl dyrfa, efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch chwi oll arnaf, a deallwch.

15 Nid oes dim allan o ddyn yn myned i mewn iddo, a ddichon ei halogi ef: eithr y pethau sydd yn dyfod allan o hono, y rhai hynny yw y pethau sydd yn halogi dyn.

16 Od oes gan neb glustiau i wrandaw, gwrandawed.

17 A phan ddaeth efe i mewn i'r tŷ oddi wrth y bobl, ei ddisgyblion a ofynasant iddo am y ddammeg.

18 Yntau a ddywedodd wrthynt, Ydych chwithau hefyd mor ddi-ddeall? Oni wyddoch am bob peth oddi allan a êl i mewn i ddyn, na all hynny ei halogi ef;

19 Oblegid nid yw yn myned i'w galon ef, ond i'r bol; ac yn myned allan i'r geudy, gan garthu yr holl fwydydd?

20 Ac efe a ddywedodd, Yr hyn sydd yn dyfod allan o ddyn, hynny sydd yn halogi dyn.

21 Canys oddi mewn, allan o galon dynion, y daw drwg-feddyliau, torrpriodasau, putteindra, llofruddiaeth,

22 Lladradau, cybydd-dod, drygioni, twyll, anlladrwydd, drwg-lygad, cabledd, balchder, ynfydrwydd:

23 Yr holl ddrwg bethau hyn sydd yn dyfod oddi mewn, ac yn halogi dyn.

24 ¶ Ac efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i gyffiniau Tyrus a Sidon; ac a aeth i mewn i dy, ac ni fynnasai i neb wybod: eithr ni allai efe fod yn guddiedig.

25 Canys pan glybu gwraig, yr hon yr oedd ei merch fechan ag yspryd aflan ynddi, sôn am dano, hi a ddaeth ac a syrthiodd wrth ei draed ef:

26 (A Groeges oedd y wraig, Syropheniciad o genedl.) A hi a attolygodd iddo fwrw y cythraul allan o'i merch.

27 A'r Iesu a ddywedodd wrthi, Gâd yn gyntaf i'r plant gael eu digoni: canys nid cymmwys yw cymmeryd bara y plant, a'i daflu i'r cenawon cwn.

28 Hithau a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Gwir, O Arglwydd: ac etto y mae y cenawon dan y bwrdd yn bwytta o friwsion y plant.

29 Ac efe a ddywedodd wrthi, Am y gair hwnnw dos ymaith: aeth y cythraul allan o'th ferch.

30 Ac wedi iddi fyned i'w thŷ, hi a gafodd fyned o'r cythraul allan, a’i merch wedi ei bwrw ar y gwely.

31 Ac efe a aeth drachefn ymaith o dueddau Tyrus a Sidon, ac a ddaeth hyd for Galilea, trwy ganol terfynau Decapolis.

32 Ahwy a ddygasant atto un byddar, ag attal dywedyd arno; ac a attolygasant iddo ddodi ei law arno ef.

33 Ac wedi iddo ei gymmeryd ef o'r neilldu allan o'r dyrfa, efe a estynodd ei fysedd yn ei glustiau ef; ac wedi iddo boeri, efe a gyffyrddodd â'i dafod ef;

34 A chan edrych tu a'r nef, efe a ocheneidiodd, ac a ddywedodd wrtho, Ephphatha, hynny yw, Ym- agor.

35 Ac yn ebrwydd ei glustiau ef a agorwyd, a rhwym ei dafod a ddattodwyd; ac efe a lefarodd yn eglur.

36 Ac efe a waharddodd iddynt ddywedyd i neb: ond po mwyaf y gwaharddodd efe iddynt, mwy o lawer y cyhoeddasant.

37 A synnu a wnaethant yn anfeidrol, gan ddywedyd, Day gwnaeth efe bob peth: y mae efe yn gwneuthur i'r byddariaid glywed, ac i'r mudion ddywedyd.

PENNOD VIII.

1 Crist yn porthi y bobl yn rhyfeddol: 10 yn naccâu rhoddi arwydd i'r Phariseaid: 14 yn rhybuddio ei ddisgyblion i ochelyd surdoes y Phariseaid, a surdoes Herod: 22 yn rhoddi ei olwg i ddyn dall: 27 yn cydnabod mai efe yw Crist, yr hwn a ddioddefai, ac a gyfodai eilwaith: 34 ac yn annog i fod yn ddioddefgar mewn erlid o achos proffesu yr efengyl.

1 YN y dyddiau hynny, pan oedd y dyrfa yn fawr iawn, ac heb ganddynt ddim i'w fwytta, y galwodd yr Iesu ei ddisgyblion atto, ac a ddywedodd wrthynt,

2 Yr wyf fi yn tosturio wrth y dyrfa, oblegid y maent hwy dridiau