Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/59

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3 Ac os gollyngaf hwynt ymaith ar eu cythlwng i'w teiau eu hunain, hwy a lewygant ar y ffordd: canys rhai o honynt a ddaeth o bell.

4 A'i ddisgyblion ef a'i hattebasant, O ba le y gall neb ddigoni y rhai hyn & bara yma yn yr anialwch?

5 Ac efe a ofynodd iddynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith.

6 Ac efe a orchymynodd i'r dyrfa eistedd ar y llawr: ac a gymmerodd y saith dorth, ac a ddiolchodd, ac a'u torrodd hwynt, ac a'u rhoddes i'w ddisgyblion, fel y gosodent hwynt ger eu bronnau; a gosodasant hwynt ger bron y bobl.

7 Ac yr oedd ganddynt ychydig bysgod bychain: ac wedi iddo fendithio, efe a barodd ddodi y rhai hynny hefyd ger eu bronnau hwynt.

8 A hwy a fwyttasant, ac a ddigonwyd: a hwy a godasant o'r briw-fwyd gweddill, saith fasgedaid.

9 A'r rhai a fwyttasent oedd ynghylch pedair mil: ac efe a'u gollyngodd hwynt ymaith.

10 Ac yn y man, wedi iddo fyned i long gyd a'i ddisgyblion, efe a ddaeth i barthau Dalmanutha.

11 A'r Phariseaid a ddaethant allan, ac a ddechreuasant ymholi âg ef, gan geisio ganddo arwydd o'r nef, gan ei demtio.

12 Yntau, gan ddwys-ocheneidio yn ei yspryd, a ddywedodd, Beth a wna y genhedlaeth yma yn ceisio arwydd? Yn wir meddaf i chwi, Ni roddir arwydd i'r genhedlaeth yma.

13 Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth i'r llong drachefn, ac a dynnodd ymaith i'r làn arall.

14 A'r disgyblion a adawsant yn anghof gymmeryd bara, ac nid oedd ganddynt gyd â hwynt ond un dorth yn y llong.

15 Yna y gorchymynodd efe iddynt, gan ddywedyd, Gwyliwch, ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid, a surdoes Herod.

16 Ac ymresymmu a wnaethant y naill wrth y llall, gan ddywedyd, Hyn sydd oblegid nad oes gennym fara.

17 A phan wybu yr Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, Pa ymresymmu yr ydych, am nad oes gennych fara? onid ydych chwi etto yn ystyried, nac yn deall? ydyw eich calon etto gennych wedi caledu?

18 A chennych lygaid, oni welwch? a chennych glustiau, oni chlywch ac onid ydych yn cofio?

19 Pan dorrais y pùm torth hynny ym mysg y pùm mil, pa sawl basgedaid yn llawn o friw-fwyd a godasoch i fynu? Dywedasant wrtho, Deuddeg.

20 A phan dorrais y saith ym mhlith y pedair mil, llonaid pa sawl basged o friw-fwyd a godasoch i fynu? A hwy a ddywedasant, Saith.

21 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fodd nad ydych yn deall?

22 ¶ Ac efe a ddaeth i Bethsaida; a hwy a ddygasant atto un dall, ac a ddeisyfasant arno ar iddo gyffwrdd âg ef.

23 Ac wedi ymaflyd yn llaw y dall, efe a'i tywysodd ef allan o'r dref: ac wedi iddo boeri ar ei lygaid ef, a dodi ei ddwylaw arno, efe a ofynodd iddo, a oedd efe yn gweled dim.

24 Ac wedi edrych i fynu, efe a ddywedodd, Yr ydwyf yn gweled dynion megis prennau yn rhodio.

25 Wedi hynny y gosododd efe ei ddwylaw drachefn ar ei lygaid ef, ac a barodd iddo edrych i fynu: ac efe a gafodd ei olwg, ac efe a welai bawb o bell, ac yn eglur.

26 Ac efe a'i hanfonodd ef adref, i'w dŷ, gan ddywedyd, Na ddos i'r dref, ac na ddywed i neb yn y dref.

27 ¶ A'r Iesu a aeth allan, efe a'i ddisgyblion, i drefi Cesarea Philippi: ac ar y ffordd efe a ofynodd i'w ddisgyblion, gan ddywedyd wrthynt, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i?

28 A hwy a attebasant, Ioan Fedyddiwr; a rhai, Elias; ac eraill, Un o'r prophwydi.

29 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? A Phetr a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Ti yw y Crist.

30 Ac efe a orchymynodd iddynt na ddywedent i neb am dano.