Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/60

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

31 Ac efe a ddechreuodd eu dysgu hwynt, fod yn rhaid i Fab y dyn oddef llawer, a'i wrthod gan yr henuriaid, a'r arch-offeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, ac wedi tridiau adgyfodi.

32 A'r ymadrodd hwnnw a ddywedodd efe yn eglur. A Phetr a ymaflodd ynddo, ac a ddechreuodd ei geryddu ef.

33 Eithr wedi iddo droi, ac edrych ar ei ddisgyblion, efe a geryddodd Petr, gan ddywedyd, Dos ymaith yn fy ol i, Satan; am nad wyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion.

34 Ac wedi iddo alw atto y dyrfa, gyd â'i ddisgyblion, efe a ddywedodd wrthynt, Y neb a fynno ddyfod ar fy ol i, ymwaded âg ef ei hun, a chyfoded ei groes, a dilyned fi.

35 Canys pwy bynnag a fynno gadw ei einioes, a'i cyll hi: ond pwy bynnag a gollo ei einioes er fy mwyn i a'r efengyl, hwnnw a'i ceidw hi.

36 Canys pa lesâd i ddyn, os ennill yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun?

37 Neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid?

38 Canys pwy bynnag a fyddo cywilydd ganddo fi a'm geiriau yn yr odinebus a'r bechadurus genhedlaeth hon; bydd cywilydd gan Fab y dyn yntau hefyd, pan ddel yng ngogoniant ei Dad, gyd â'r angelion sanctaidd.

PENNOD IX.

2 Gwedd-newidiad yr Iesu. 11 Efe yn dysgu ei ddisgyblion ynghylch dyfodiad Elias: 14 yn bwrw allan yspryd mud a byddar: 30 yn rhag-fynegi ei farwolaeth a'i adgyfodiad; 33 yn annog ei ddisgyblion ostyngeiddrwydd: 38 gan erchi iddynt, na luddient y rhai nid ydynt yn eu herbyn, ac na roddent rwystr i neb o'r ffyddloniaid. efe a ddywedodd wrthynt.

1 Ac Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fod rhai o'r rhai sydd yn sefyll yma, ni phrofant angau, hyd oni welont deyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth.

2 Ac wedi chwe diwrnod, y cymmerth yr Iesu Petr, ac Iago, ac Ioan, ac a'u dug hwynt i fynydd uchel, eu hunain o'r neilldu: ac efe a weddnewidiwyd yn eu gwydd hwynt.

3 A'i ddillad ef a aethant yn ddisglaer, yn gannaid iawn fel eira; y fath ni fedr un pannwr ar y ddaear eu cannu.

4 Ac ymddangosodd iddynt Elias, gyd â Moses; ac yr oeddynt yn ymddiddan a'r Iesu.

5 A Phetr a attebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, Rabbi, da yw i ni fod yma: a gwnawn dair pabell; i ti un, ac i Moses un, ac i Elias un.

6 Canys nis gwyddai beth yr oedd yn ei ddywedyd: canys yr oeddynt wedi dychrynu.

7 A daeth cwmmwl yn cysgodi drostynt hwy: a llef a ddaeth allan o'r cwmmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy anwyl Fab; gwrandewch ef.

8 Ac yn ddisymmwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwy, ond yr Iesu yn unig gyd â hwynt.

9 A phan oeddynt yn dyfod i waered o'r mynydd, efe a orchymynodd iddynt na ddangosent i neb y pethau a welsent, hyd pan adgyfodai Mab y dyn o feirw.

10 A hwy a gadwasant y gair gyd â hwynt eu hunain, gan gyd-ymholi beth yw yr adgyfodi o feirw. 11 A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham y dywed yr ysgrifenyddion, fod yn rhaid i Elias ddyfod yn gyntaf?

12 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Elias ddiau gan ddyfod yn gyntaf a edfryd bob peth; a'r modd yr ysgrifenwyd am Fab y dyn, y dioddefai lawer o bethau, ac y dirmygid ef.

13 Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, ddyfod Elias yn ddiau, a gwneuthur o honynt iddo yr hyn a fynnasant, fel yr ysgrifenwyd am dano.

14 A phan ddaeth efe at ei ddisgyblion, efe a welodd dyrfa fawr yn eu cylch hwynt, a'r ysgrifenyddion yn cyd-ymholi â hwynt.

15 Ac yn ebrwydd yr holl dyrfa, pan ganfuant ef, a ddychrynasant, a chan redeg atto, a gyfarchasant iddo.

16 Ac efe a ofynodd i'r ysgrifenyddion, Pa gyd-ymholi yr ydych yn eich plith?

17 Ac un o'r dyrfa a attebodd ac a ddywedodd, Athraw, mi a ddygais fy mab attat, ag yspryd mud ynddo: