Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/62

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn i'r bywyd yn anafus, nag a dwy law gennyt fyned i uffern, i'r tân anniffoddadwy:

44 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd.

45 Ac os dy droed a'th rwystra, torr ef ymaith gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, nag a dau droed gennyt dy daflu i uffern, i'r tân anniffoddadwy:

46 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân na'r tân yn diffodd.

47 Ac os dy lygad a'th rwystra, bwrw ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i deyrnas Dduw yn unllygeidiog, nag a dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern:

48 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd.

49 Canys. pob un a helltir à thân, a phob aberth a helltir â halen.

50 Da yw yr halen: ond os bydd yr halen yn ddihallt, & pha beth yr helltwch ef? Bid gennych halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlawn a'ch gilydd.

PENNOD X.

2 Crist yn ymresymmu a'r Phariseaid ynghylch ysgar: 13 yn bendithio y plant a ddygwyd atto: 17 yn atteb i wr goludog, pa fodd y cai etifeddu bywyd tragywyddol: 23 yn dangos i'w ddisgybl- ion berygl golud: 28 yn addaw gwobrau i'r sawl a ymadawo â dim er mwyn yr efengyl: 32 yn rhag-fynegi ei farwolaeth, a'i adgyfodiad: 35 yn gorchymyn i feibion Zebedeus, a geisient barch ganddo, feddwl yn hytrach am ddioddef gyd âg ef; 46 ac yn rhoddi ei olwg i Bartimeus

1 Ac efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i dueddau Judea, trwy y tu hwnt i'r lorddonen; a'r bobloedd a gyd-gyrchasant atto ef drachefn : ac fel yr oedd yn arferu, efe a'u dysgodd hwynt drachefn.

2 A'r Phariseaid, wedi dyfod atto, a ofynasant iddo, Ai rhydd i wr roi ymaith ei wraig? gan ei demtio ef.

3 Yntau a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Beth a orchymynodd Moses i chwi?

4 A hwy a ddywedasant, Moses a ganiattaodd ysgrifenu llythyr ysgar, a'i gollwng hi ymaith.

5 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, O achos eich calon-galedwch chwi yr ysgrifenodd efe i chwi y gorchymyn hwnnw:

6 Ond o ddechreuad y creadigaeth, yn wrryw a benyw y gwnaeth Duw hwynt.

7 Am hyn y gâd dyn ei dad a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig;

8 A hwy ill dau a fyddant un cnawd fel nad ydynt mwy ddau, ond un cnawd.

9 Y peth gan hynny a gyssylltodd Duw, na wahaned dyn.

10 Ac yn y tŷ drachefn ei ddisgyblion a ofynasant iddo am yr un peth.

11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a roddo ymaith ei wraig, ac a brïodo un arall, y mae yn godinebu yn ei herbyn hi.

12 Ac os gwraig a ddyry ymaith ei gwr, a phriodi un arall, y mae hi yn godinebu.

13 A hwy a ddygasant blant bychain atto, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a'r disgyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt.

14 A'r Iesu pan welodd hynny, fu anfoddlawn, ac a ddywedodd wrthynt, Gadewch i blant bychain ddyfod attaf fi, ac na waherddwch iddynt: canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas Dduw.

15 Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi.

16 Ac efe a'u cymmerodd hwy yn ei freichiau, ac a roddes ei ddwylaw arnynt, ac a'u bendithiodd.

17 ¶ Ac wedi iddo fyned allan i'r ffordd, rhedodd un atto, a gostyngodd iddo, ac a ofynodd iddo, O Athraw da, beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragywyddol?

18 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid oes neb da ond un, sef Duw.

19 Ti a wyddost y gorchymynion, Na odineba, Na ladd, Na ladratta, Na cham-dystiolaetha, Na chamgolleda, Anrhydedda dy dad a'th fam.

20 Yntau a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Athraw, y rhai hyn i gyd a gedwais o'm hieuengetid.

21 A'r lesu gan edrych arno, a'i hoffodd, ac a ddywedodd wrtho, Un peth sydd ddiffygiol i ti: dos, gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gei drysor