Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/71

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

60 A chyfododd yr arch-offeiriad yn y canol, ac a ofynodd i'r Iesu, gan ddywedyd, Oni attebi di ddim? beth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn?

61 Ac efe a dawodd, ac nid attebodd ddim. Drachefn yr arch-offeiriad a ofynodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw Crist, Mab y Bendigedig?

62 A'r Iesu a ddywedodd, Myfi yw: a chwi a gewch weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw y gallu, ac yn dyfod y'nghymmylau y nef.

63 Yna yr arch-offeiriad, gan rwygo ei ddillad, a ddywedodd, Pa raid i ni mwy wrth dystion?

64 Chwi a glywsoch y gabledd: beth dybygwch chwi? A hwynt oll a'i condemniasant ef, ei fod yn euog o farwolaeth.

65 A dechreuodd rhai boeri arno, a chuddio ei wyneb, a'i gernodio; a dywedyd wrtho, Prophwyda. A'r gweinidogion a'i tarawsant ef â gwïail.

66 Ac fel yr oedd Petr yn y llys i waered, daeth un o forwynion yr arch-offeiriad:

67 A phan ganfu hi Petr yn ymdwymno, hi a edrychodd arno, ac a ddywedodd, Tithau hefyd oeddit gyd â'r Iesu o Nazareth.

68 Ac efe a wadodd, gan ddywedyd, Nid adwaen i, ac ni wn i beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac efe a aeth allan i'r porth; a'r ceiliog a ganodd.

69 A phan welodd y llangces ef drachefn, hi a ddechreuodd ddywedyd wrth y rhai oedd yn sefyll yno, Y mae hwn yn un o honynt.

70 Ac efe a wadodd drachefn. Ac ychydig wedi, y rhai oedd yn sefyll ger llaw a ddywedasant wrth Petr drachefn, Yn wir yr wyt ti yn un o honynt; canys Galilead wyt, a'th leferydd sydd debyg.

71 Ond efe a ddechreuodd regu a thyngu, Nid adwaen i y dyn yma yr ydych chwi yn dywedyd am dano.

72 A'r ceiliog a ganodd yr ail waith. A Phetr a gofiodd y gair a ddywedasai yr Iesu wrtho, Cyn canu o'r ceiliog ddwywaith, ti a'm gwedi deirgwaith. A chan ystyried hynny, efe a wylodd.

PENNOD XV.

1 Dwyn yr Iesu yn rhwym, ac achwyn arno ger bron Pilat. 15 Wrth floedd y bobl gyffredin, gollwng Barabbas y llofrudd yn rhydd, a thraddodi yr Iesu i'w groeshoelio. 17 Ei goroni ef â drain, 19 poeri arno, a'i watwar. 21 Efe yn diffygio yn dwyn ei groes. 27 Ei grogi ef rhwng dau leidr. 29 Y mae yn dioddef difenwad yr Iuddewon: 39 etto y canwriad yn cyffesu ei fod ef yn Fab Duw: 43 a Joseph yn ei gladdu ef yn barchedig.

1 AC yn y fan, y bore, yr ymgynghorodd yr arch-offeiriaid gyd â'r henuriaid a'r ysgrifenyddion, a'r holl gynghor: ac wedi iddynt rwymo yr Iesu, hwy a'i dygasant ef ymaith, ac a'i traddodasant at Pilat.

2 A gofynodd Pilat iddo, Ai ti ᎩᎳ Brenhin yr Iuddewon? Yntau a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd.

3 A'r arch-offeiriaid a'i cyhuddasant ef o lawer o bethau: eithr nid attebodd efe ddim.

4 A Philat drachefn a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Onid attebi di ddim? wele faint o bethau y maent yn eu tystiolaethu yn dy erbyn.

5 Ond yr Iesu etto nid attebodd ddim; fel y rhyfeddodd Pilat.

6 Ac ar yr wyl honno y gollyngai efe yn rhydd iddynt un carcharor, yr hwn a ofynent iddo.

7 Ac yr oedd un a elwid Barabbas, yr hwn oedd yn rhwym gyd â'i gyd-derfysgwyr, y rhai yn y derfysg a wnaethent lofruddiaeth.

8 A'r dyrfa gan groch-lefain, a ddechreuodd ddeisyf arno wneuthur fel y gwnaethai bob amser iddynt.

9 A Philat a attebodd iddynt, gan ddywedyd, A fynnwch chwi i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenhin yr Iuddewon?

10 (Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasai yr arch- offeiriaid ef.)

11 A'r arch-offeiriaid a gynhyrfasent y bobl, fel y gollyngai efe yn hytrach Barabbas yn rhydd iddynt.

12 A Philat a attebodd ac a ddywedodd drachefn wrthynt, Beth gan hynny a fynnwch i mi ei wneuthur i'r hwn yr ydych yn ei alw Brenhin yr Iuddewon?