Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/72

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

13 A hwythau a lefasant drachefn, Croeshoelia ef.

14 Yna Pilat a ddywedodd wrthynt, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? A hwythau a lefasant fwy-fwy, Croeshoelia ef.

15 A Philat yn chwennych boddloni y bobl, a ollyngodd yn rhydd iddynt Barabbas; a'r Iesu, wedi iddo ei fflangellu, a draddododd efe i'w groeshoelio.

16 A'r milwyr a'i dygasant efi fewn y llys, a elwir Pretorium: a hwy a alwasant ynghyd yr holl fyddin;

17 Ac a'i gwisgasant ef a phorphor, ac a blethasant goron o ddrain, ac a'i dodasant am ei ben;

18 Ac a ddechreuasant gyfarch iddo, Henffych well, Brenhin yr Iuddewon.

19 A hwy a gurasant ei ben ef â chorsen, ac a boerasant arno, a chan ddodi eu gliniau i lawr, a'i haddolasant ef.

20 Ac wedi iddynt ei watwar ef, hwy a ddïosgasant y porphor oddi am dano, ac a'i gwisgasant ef â'i ddillad ei hun, ac a'i dygasant allan i'w groeshoelio.

21 A hwy a gymhellasant un Simon o Cyrene, yr hwn oedd yn myned heibio, wrth ddyfod o'r wlad, sef tad Alexander a Ruffus, i ddwyn ei groes ef.

22 A hwy a'i harweiniasant efi le a elwid Golgotha; yr hyn o'i gyfieithu yw, Lle y benglog;

23 Ac a roisant iddo i'w yfed win myrllyd eithr efe nis cymmerth.

24 Ac wedi iddynt ei groeshoelio, hwy a rannasant ei ddillad ef, gan fwrw coelbren arnynt, beth a gai pob un.

25 A'r drydedd awr oedd hi; a hwy a'i croeshoeliasant ef.

26 Ac yr oedd ysgrifen ei achos ef wedi ei hargraphu, BRENHIN YR IUDDEWON.

27 A hwy a groeshoeliasant gyd âg ef ddau leidr; un ar y llaw ddehau, ac un ar yr aswy iddo.

28 A'r ysgrythyr a gyflawnwyd, yr hon a ddywed, Ac efe a gyfrifwyd gyd â'r rhai anwir.

29 A'r rhai oedd yn myned heibio a'i cablasant ef, gan ysgwyd eu pennau, a dywedyd, Och, tydi yr hwn wyt yn dinystrio y deml, ac yn ei hadeiladu mewn tridiau,

30 Gwared dy hun, a disgyn oddi ar y groes.

31 Yr un ffunud yr arch-offeiriaid hefyd yn gwatwar, a ddywedasant wrth eu gilydd, gyd â'r ysgrifenyddion, Eraill a waredodd, ei hun nis gall ei wared.

32 Disgyned Crist, Brenhin yr Israel, yr awrhon oddi ar y groes, fel y gwelom, ac y credom. A'r rhai a groeshoeliesid gyd âg ef, a'i difenwasant ef.

33 A phan ddaeth y chweched awr, y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr.

34 Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eloi, Eloi, lama sabachthani? yr hyn o'i gyfieithu yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gadewaist?

35 A rhai o'r rhai a safent ger llaw, pan glywsant, a ddywedasant, Wele, y mae efe yn galw ar Elias.

36 Ac un a redodd, ac a lanwodd yspwng yn llawn o finegr, ac a'i dododd ar gorsen, ac a'i diododd ef, gan ddywedyd, Peidiwch, edrychwn a ddaw Elias i'w dynnu ef i lawr.

37 A'r Iesu a lefodd â llef uchel, ac a ymadawodd a'r yspryd.

38 A llèn y deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fynu hyd i waered.

39 A phan welodd y canwriad, yr hwn oedd yn sefyll ger llaw gyferbyn âg ef, ddarfod iddo yn llefain felly ymadaw â'r yspryd, efe a ddywedodd, Yn wir Mab Duw oedd y dyn hwn.

40 Ac yr oedd hefyd wragedd yn edrych o hirbell: ym mhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago fychan a Jose, a Salome;

41 Y rhai hefyd, pan oedd efe yn Galilea, a'i dilynasant ef, ac a weiniasant iddo; a gwragedd eraill lawer, y rhai a ddaethent gyd âg ef i fynu i Jerusalem.

42 Pan ydoedd hi weithian yn hwyr, (am ei bod hi yn ddarpar-wyl, sef y dydd cyn y Sabbath,):

43 Daeth Joseph o Arimathea,