Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/74

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YR EFENGYL YN OL

SANT LUC.

PENNOD I.

1 Rhagymadrodd yr holl efengyl. 5 Cenhedliad Ioan Fedyddiwr, 26 a Christ. 39 Prophwydol iaeth Elisabeth a Mair am Grist. 57 Genedigaeth ac enwaediad Ioan. 67 Prophwydoliaeth Zacharias am Grist, 78 ac Ioan.

1 YN gymmaint â darfod i lawer gymmeryd mewn llaw osod allan mewn trefn draethawd am y pethau a gredir yn ddïammeu yn ein plith,

2 Megis y traddodasant hwy i ni, y rhai oeddynt eu hunain o’r dechreuad yn gweled, ac yn weinidogion y gair:

3 Minnau a welais yn dda, wedi i mi ddilyn pob peth yn ddyfal o’r dechreuad, ysgrifenu mewn trefn atat, O ardderchoccaf Theophilus,

4 Fel y ceit wybod sicrwydd am y pethau y’th ddysgwyd ynddynt.

5 Yr oedd yn nyddiau Herod, brenin Judea, ryw offeiriad a’i enw Zacharïas, o ddydd-gylch Abïa: a’i wraig oedd o ferched Aaron, a’i henw Elisabeth.

6 Ac yr oeddynt ill dau yn gyfiawn gerbron Duw, yn rhodio yn holl orchmynion a deddfau’r Arglwydd yn ddïargyhoedd.

7 Ac nid oedd plentyn iddynt, am fod Elisabeth yn ammhlantadwy; ac yr oeddynt wedi myned ill dau mewn gwth o oedran.

8 A bu, ac efe yn gwasanaethu swydd offeiriad gerbron Duw, yn nhrefn ei ddydd-gylch ef,

9 Yn ôl arfer swydd yr offeiriaid, ddyfod o ran iddo arogl-darthu yn ôl ei fyned i deml yr Arglwydd.

10 A holl lïaws y bobl oedd allan yn gweddïo ar awr yr arogl-darthiad.

11 Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd yn sefyll o’r tu deau i allor yr arogl-darth.

12 A Zacharïas, pan ganfu, a gythryblwyd, ac ofn a syrthiodd arno.

13 Eithr yr angel a ddywedodd wrtho, Nac ofna, Zacharïas: canys gwrandawyd dy weddi; a’th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab, â thi a elwi ei enw ef Ioan.

14 A bydd iti lawenydd a gorfoledd; a llawer a lawenychant am ei enedigaeth ef.

15 Canys mawr fydd efe y'ngolwg yr Arglwydd, ac nid ŷf na gwin na dïod gadarn; ac efe a gyflawnir o’r Ysbryd Glân, ie, o groth ei fam.

16 A llawer o blant Israel a dry efe at yr Arglwydd eu Duw.

17 Ac efe a â o’i flaen ef yn yspryd a nerth Elïas, i droi calonnau’r tadau at y plant, a’r anufudd i ddoethineb y cyfiawn; i ddarparu i’r Arglwydd bobl barod.

18 A dywedodd Zacharïas wrth yr angel. Pa fodd y gwybyddaf fi hyn? canys henafgwr wyf fi, a’m gwraig hefyd mewn gwth o oedran.

19 A’r angel gan atteb a ddywedodd wrtho, Myfi yw Gabriel, yr hwn wyf yn sefyll gerbron Duw, ac a anfonwyd i lefaru wrthyt, ac i fynegi i ti’r newyddion da hyn.

20 Ac wele, ti a fyddi fud ac heb allu llefaru hyd y dydd y gwneler y pethau hyn, am na chredaist i’m geiriau i, y rhai a gyflawnir yn eu hamser.

21 Ac yr oedd y bobl yn disgwyl am Zacharïas: a rhyfeddu a wnaethant ei fod ef yn aros cyhyd yn y deml.

22 A phan ddaeth efe allan, ni allai efe lefaru wrthynt; a hwy a wybuant weled ohono weledigaeth yn y deml: ac yr oedd efe yn gwneuthur amnaid iddynt; ac efe a arhosodd yn fud.

23 A bu, cyn gynted ag y cyflawnwyd dyddiau ei weinidogaeth ef, fyned ohono i’w dŷ ei hun.

24 Ac ar ôl y dyddiau hynny y cafodd Elisabeth ei wraig ef feichiogi, ac a ymguddiodd bum mis, gan ddywedyd,

25 Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd i mi yn y dyddiau yr edrychodd arnaf, i dynnu ymaith fy ngwaradwydd ymhlith dynion.

26 Ac yn y chweched mis yr anfonwyd yr angel Gabriel oddi