Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/75

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth Dduw, i ddinas yn Galilea a'i henw Nazareth,

27 At forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr a'i enw Joseph, o dŷ Dafydd; ac enw y forwyn oedd Mair.

28 A'r angel a ddaeth i mewn atti, ac a ddywedodd, Henffych well, yr hon a gefaist ras; yr Arglwydd sydd gyd â thi: bendigaid wyt ymhlith gwragedd.

29 A hithau, pan ei gwelodd, a gythryblwyd wrth ei ymadrodd ef; a meddylio a wnaeth pa fath gyfarch oedd hwn.

30 A dywedodd yr angel wrthi, Nac ofna, Mair: canys ti a gefaist ffafr gyd â Duw.

31 Ac wele, ti a gei feichiogi yn dy groth, ac a esgori ar fab, ac a eiwi ei enw ef IESU.

32 Hwn fydd mawr, ac a elwir yn Fab y Goruchaf: ac iddo y rhydd yr Arglwydd' Dduw orseddfa ei dad Dafydd.

33 Ac efe a deyrnasa ar dŷ Jacob yn dragywydd; ac ar ei frenhiniaeth ni bydd diwedd.

34 A Mair a ddywedodd wrth yr angel, Pa fodd y bydd hyn, gan nad adwaen i wr?

35 A'r angel a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Yr Yspryd Glân a ddaw arnat ti, a nerth y Goruchaf a'th gysgoda di: am hynny hefyd y peth sanctaidd a aner ohonot ti, a elwir yn Fab Duw.

36 Ac wele, Elisabeth dy gares, y mae hithau wedi beichiogi ar fab yn ei henaint: a hwn yw yr chweched mis iddi hi, yr hon a elwid yn ammhlantadwy.

37 Canys gyd â Duw ni bydd dim yn ammhosibl.

38 A dywedodd Mair, Wele wasanaethyddes yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di. A'r angel a aeth ymaith oddi wrthi hi.

39 A Mair a gyfododd yn y dyddiau hynny, ac a aeth i'r mynydd-dir ar frys, i ddinas o Juda;

40 Ac a aeth i mewn i dŷ Zacharïas, ac a gyfarchodd well i Elisabeth.

41 A bu, pan glybu Elisabeth gyfarchiad Mair, i'r plentyn yn ei chroth hi lamu: ac Elisabeth a lanwyd o'r Yspryd Glân.

42 A llefain a wnaeth â llef uchel, a dywedyd, Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth di.

43 Ac o ba le y mae hyn i mi, fel y delai mam fy Arglwydd ataf fi?

44 Canys wele, er cynted y daeth lleferydd dy gyfarchiad di i'm clustiau, y plentyn a lammodd o lawenydd yn fy nghroth.

45 A bendigedig yw yr hon a gredodd: canys bydd cyflawniad o'r pethau a ddywedwyd wrthi gan yr Arglwydd.

46 ¶ A dywedodd Mair, Y mae fy enaid yn mawrhâu yr Arglwydd,

47 A'm hyspryd a lawenychodd yn Nuw fy Iachawdwr.

48 Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes: oblegid, wele, o hyn allan yr holl genedlaethau a'm geilw yn wynfỳdedig.

49 Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd; a sanctaidd yw ei enw ef.

50 A'i drugaredd sydd yn oes oesoedd ar y rhai a'i hofnant ef.

51 Efe a wnaeth gadernid â'i fraich: efe a wasgarodd y rhai beilchion ym mwriad eu calon.

52 Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o'u heisteddfäau, ac a ddyrchafodd y rhai isel-radd.

53 Y rhai newynog a lanwodd efe â phethau da; ac efe a anfonodd ymaith y rhai goludog yn weigion.

54 Efe a gynorthwyodd ei was Israel, gan gofio ei drugaredd;

55 Fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham a'i had, yn dragywydd.

56 A Mair a arhosodd gyd â hi ynghylch tri mis, ac a ddychwelodd i'w thŷ ei hun.

57 A chyflawnwyd tymp Elisabeth i esgor; a hi a esgorodd ar fab.

58 A'i chymmydogion a'i chenedl a glybu fawrhau o'r Arglwydd ei drugaredd arni; a hwy a gydlawenychasant â hi.

59 A bu, ar yr wythfed dydd hwy a ddaethant i enwaedu ar y dyn bach; ac a'i galwasant ef Zacharïas, yn ôl enw ei dad.