Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/78

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pob peth yn ol deddf yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Galilea, i'w dinas eu hun Nazareth.

40 A'r bachgen a gynnyddodd, ac a gryfhaodd yn yr yspryd, yn gyflawn o ddoethineb: a gras Duw oedd arno ef.

41 ¶ A'i rieni ef a aent i Jerusalem bob blwyddyn ar wyl y pasc.

42 A phan oedd efe yn ddeuddeng mlwydd oed, hwynt-hwy a aethant i fynu i Jerusalem yn ol defod yr wyl.

43 Ac wedi gorphen y dyddiau, a hwy yn dychwelyd, arhosodd y bachgen Iesu yn Jerusalem; ac ni wyddai Joseph a'i fam ef:

44 Eithr gan dybied ei fod ef yn y fintai, hwy a aethant daith diwrnod; ac a'i ceisiasant ef ym mhlith eu cenedl a'u cydnabod.

45 A phryd na chawsant ef, hwy a ddychwelasant i Jerusalem, gan ei geisio ef.

46 A bu, ar ol tridiau, gael o honynt hwy ef yn y deml, yn eistedd y nghanol y doctoriaid, yn gwrandaw arnynt, ac yn eu holi hwynt.

47 A synnu a wnaeth ar bawb a'r a'i clywsant ef, o herwydd ei ddeall ef a'i attebion.

48 A phan welsant ef, bu aruthr ganddynt. A'i fam a ddywedodd wrtho, Fy mab, paham y gwnaethost felly â ni? wele, dy dad a minnau yn ofidus a'th geisiasom di.

49 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y ceisiech fi? oni wyddech fod yn rhaid i mi fod ynghylch y pethau a berthyn i'm Tad?

50 A hwy ni ddeallasant y gair a ddywedasai efe wrthynt.

51 Ac efe a aeth i waered gyd â hwynt, ac a ddaeth i Nazareth, ac a fu ostyngedig iddynt. A'i fam ef a gadwodd yr holl eiriau hyn yn ei chalon.

52 A'r Iesu a gynnyddodd mewn doethineb a chorpholaeth, a ffafr gyd â Duw a dynion.

PENNOD III.

1 Pregeth a bedydd Ioan: 15 ei dystiolaeth ef am Grist. 20 Herod yn carcharu Ioan. 21 Crist, wedi ei fedyddio, yn derbyn tystiolaeth o'r nef. 23 Oedran ac achau Crist o Joseph i fynu.

YN y bymthegfed flwyddyn o ymerodraeth Tiberius Cesar, a Phontius Pilat yn rhaglaw Judea, a Herod yn detrarch Galilea, a'i frawd Phylip yn detrarch Iturea a gwlad Trachonitis, a Lysanias yn detrarch Abilene,

2 Dan yr arch-offeiriaid Annas a Chaiaphas, y daeth gair Duw at Ioan, mab Zacharïas, yn y diffaethwch.

3 Ac efe a ddaeth i bob goror ynghylch yr Iorddonen, gan bregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau;

4 Fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr ymadroddion Esaias y prophwyd, yr hwn sydd yn dywedyd, Llef un yn llefain yn y diffaethwch, Parottowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch ei lwybrau ef yn uniawn.

5 Pob pant a lenwir, a phob mynydd a bryn a ostyngir, a'r gwyr-geimion a wneir yn uniawn, a'r geirwon yn ffyrdd gwastad:

6 A phob cnawd a wêl iachawdwriaeth Duw.

7 Am hynny efe a ddywedodd wrth y bobl oedd yn dyfod i'w bedyddio ganddo, O genhedlaeth gwiberod, pwy a'ch rhag-rybuddiodd chwi i ffoi oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod?

8 Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch; ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dad: canys yr wyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw o'r cerrig hyn godi plant i Abraham.

9 Ac yr awrhon y mae y fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny a'r nid yw yn dwyn ffrwyth da, a gymmynir i lawr, ac a fwrir yn tân.

10 A'r bobloedd a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Pa beth gan hynny a wnawn ni?

11 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo ddwy bais, rhodded i'r neb sydd heb yr un; a'r neb sydd ganddo fwyd, gwnaed yr un modd.

12 A'r publicanod hefyd a ddaethant i'w bedyddio, ac a ddywedasant wrtho, Athraw, beth a wnawn ni?

13 Ac efe a ddywedodd wrthynt,