bwriadau ei dad, druan, ddod i ben! A hi, ei fam, oedd i'w gychwyn ar ffordd bywyd. Bwysiced y gwaith!
"Pam 'rwyt ti am fod fel Lincoln ?" gofynnai.
"'Roedd ef mor dlawd, a neb yn gwybod ddim amdano, a dyna fe wedi codi i fod yn uwch na'r dynion cyfoethog i gyd, yn feistr ar bawb. Dyna hanes pert yw e'!" ebe Ieuan, a'i lygaid yn disgleirio.
"Ie," ebe'r fam, "ond er bod Lincoln yn ddyn o allu mawr, ni fuasai wedi codi fel y gwnaeth, oni bai iddo roi'r gallu hwnnw i gyd er mwyn gwneud y byd, ac yn enwedig ei wlad, yn well. Nid meddwl am ddod yn enwog 'roedd ef, ond edrych am le i wneud daioni i eraill 'roedd o hyd. Rhai felly yw dynion mawr y byd i gyd. Mae digon o le yn y byd i tithau i weithio. Mae eisiau rhai i weithio dros Gymru. Os gwnei di'r defnydd gorau o'th amser a'th allu, ac os byddi'n fachgen da o hyd, fe ddeui dithau- bachgen bach o Gymro-yn ddyn mawr ryw ddydd."
Gwrando heb ddweud gair a wnai Ieuan, fel y gwnai bob amser pan siaradai ei fam yn ddwys wrtho fel yn awr.