Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bwthyn. Allan gyda natur y treulient eu hamser, ac yr oedd pob un o'r pedwar bach wedi dysgu gwrando arni a mwynhau ei chwmni. Yr oedd aroglau pêr yr eithin ym mhobman, a'r grug yn ei liw urddasol yn tonni dan yr awel. Deuai nodau mwyn yr ehedydd o'r awyr uwchben, a seiniau clir y chwibanogl ac eraill o adar y rhos. Yn awr ac yn y man, clywid bref oen, ac o'r pellter obry, gyda gwynt y de, deuai sŵn cerbyd. Yr oedd y môr bob amser yn y golwg, a hyfrydwch pennaf Alun fyddai gwylio ambell long a groesai ei wyneb, a dyfalu o ba le y daethai, ac i ba le'r âi.