Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/19

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Taenwyd y dillad, bob pilyn, o gylch y fan, a thra oeddynt yn sychu, eisteddodd y tri o gwmpas Eiry i gadw cwmni iddi a'i difyrru.

Cyn eistedd yn hir fan honno, gwelodd Ieuan gyfle braf am gynulleidfa lonydd i wrando arno yn pregethu neu'n areithio. Hoff gan Ieuan oedd arfer y ddawn honno, ond fynychaf, coed a llwyni'r ardd, neu'r defaid a'r wyn ar y rhos oedd ei wrandawyr. Byddai Alun a Mair ac Eiry, cyn iddo ond prin ddechrau, yn rhy hoff o redeg a chwarae o'i gwmpas—pethau hollol allan o le mewn cynulleidfa.

Rhyw gymysg oedd araith Ieuan y prynhawn hwnnw fel bob amser. Dechreuodd gyda brawddeg neu ddwy o ryw bregeth a glywsai rywbryd. Yna, trodd yn sydyn i'r Saesneg, a chaed ganddo ddarn o araith

Mark Antony gan Shakespeare, yn dechrau â—

Friends! Romans! Countrymen!

Taflodd ambell adnod i mewn, a chyn y diwedd, caed, mewn gwir hwyl Gymreig, y frawddeg-" Meddyliwch, bobol bach, fel yna y mae pethau!"