Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ceisiodd y wraig gael gan y plant siarad â hi hefyd, ond ni fedrai hyd yn oed Ieuan ei deall. Siaradai'n rhy gyflym, ac nid yr un sŵn oedd i'w Saesneg hi ag i Saesneg Ieuan ei hun.

Yr oedd Eiry wedi dechrau cysgu, ond pan glywodd ymddiddan, deffrodd. Taflodd y gorchudd oddi ar ei hwyneb, a chododd ar ei heistedd, gan ysgwyd ei gwallt rhuddaur ac edrych ar bawb-y plant a'r dieithriaid-- gan wenu'n fwyn yn ôl ei harfer. Ac er mai Saesneg oeddynt, cofiodd y plant am byth eiriau'r wraig pan ei gwelodd.

"O, what an angel of a child!" ebe hi'n araf a dwys, gan blygu at Eiry a chwarae â hi, a cheisio cael ganddi siarad, a daeth y ddwy ar unwaith yn gyfeillion. Mawr oedd ei phryder rhag i'r un fach gael niwed i'w hiechyd wedi'r gwlychu, ond yr oedd y dillad bron yn sych erbyn hyn, a'r niwed, os oedd niwed yn bod, wedi ei wneud.

Gofynnwyd i Ieuan areithio eto fel y gwnai; ond nid peth hawdd iddo ef oedd gwneud hynny o'u blaen hwy. Yn lle hynny, adroddodd y tri ddernyn Cymraeg a ddysgasent erbyn Cwrdd Bach y Plant yng nghapel Y Bryn, a chanasant gyda'i gilydd un o'r tonau.