Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD V

UN o brif ddyddiau'r flwyddyn i'r plant oedd hwnnw pan aent am ddiwrnod cyfan i lan y môr. Diwrnod glan y môr y gelwid ef, am y gadawai pawb o bobl yr ardal eu gwaith am y dydd, ac yr aent yn llwythi llawn yn eu ceirt a'u ceir i Lanywerydd i'w mwynhau eu hunain.

Edrychai'r plant ymlaen ato ymhell cyn ei ddyfod, ac weithiau ymddangosai'r haf yn hir iawn, a'r wythnosau yn boenus o undonog cyn i'r dydd mawr wawrio.

Yn gynnar yn Awst, wedi gorffen y ddau gynhaeaf gwair, a chyn dechrau'r cynhaeaf ŷd, yr aed y flwyddyn honno. Aethai amser maith iawn--yn agos i fis-heibio oddi ar y digwyddiad ar y rhos. Eithr yr oedd sŵn y dydd yn dod o draw, oherwydd yr oedd Gwen Owen yn brysur yn gwnïo gwisgoedd newydd i Mair ac Eiry ar ei gyfer, a phleser mawr i'r ddwy oedd ei gwylio a'i helpu. Defnydd ysgafn, ysgafn, golau, golau oedd, a blodau tlysion drosto i gyd, ac yr oedd arogl newydd hyfryd arno. Aethai sylltau'r wraig ddieithr