Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/27

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dideimlad, oedd gan y môr yn fore felly, sŵn a wnai galon Mair yn brudd, am mai un o reolau'r dydd i'r plant oedd eu bod i gael eu trochi yn y tonnau geirwon dros eu pennau. Wedi cael yr helynt blin hwnnw drosodd, yr oedd popeth yn iawn.

O'r swynion didrai oedd yng Nglanywerydd! Cai'r plant chwarae ac ymrolio yn y tywod glân, gwneud tai a chestyll ohono, rhedeg faint a fynnent heb esgidiau na hosanau, gwylio cwmnïau mawr o bobl mewn oed yn chwarae-yn chwarae yn union fel y gwnaent hwy eu hunain yn yr ysgol. Ac O! hyfryted oedd gwylio eraill yn ymdrochi- plant bychain, crynedig, ofnus, noeth, yn llaw mam neu chwaer neu fodryb, a gwybod eu bod hwy eu hunain yn ddiogel am y dydd.

Eithr yr hyn a dynnai fwyaf o sylw'r plant oedd y siop fach oedd yno ar fin y traeth. Cynhwysai hon bob math o drysorau-digon o rawiau a bwcedi, rhesi hirion o'r doliau harddaf a welodd neb erioed, llongau hefyd a chychod o bob math, oriaduron ddigonedd, heb sôn am y melysion a'r cnau.

Rhywbryd yn y prynhawn, safai Mair ac Eiry, gyda nifer o blant eraill, yn syllu ar ryfeddodau'r siop fach. Eisteddai eu mam